Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 26 Hydref 2022.
Weinidog, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am bennu cyllidebau ysgolion, ac ynni yw un o’r costau mawr y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Mewn llawer o ysgolion, gwelwn hen foeleri mawr sy'n ddrud iawn i'w rhedeg. Pa asesiadau a wnaethoch gydag awdurdodau lleol o’r costau sy’n wynebu ysgolion bellach wrth inni edrych tua'r chwe mis a’r 12 mis nesaf? A pha fesurau sydd dan ystyriaeth gennych i sicrhau y gall ein hysgolion gadw’n gynnes? Diolch.