Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 26 Hydref 2022.
Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon mewn perthynas ag ariannu ar ôl yr UE. Mae eu cynlluniau diffygiol a thoriad ariannol o £1.1 biliwn yn cael effaith ddifrifol ar ystod o sectorau yn ogystal â swyddi a thwf. Rwyf wedi codi hyn dro ar ôl tro gyda Gweinidogion y DU a byddaf yn parhau i wneud hynny.