Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:20, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cefais gyfle yn ddiweddar, a phleser yn wir, o ymweld â Dogs Trust Cymru yn eu canolfan ailgartrefu o'r radd flaenaf yma ym Mae Caerdydd. Mae'r tîm yn gwneud gwaith rhyfeddol o adsefydlu, cysuro ac ailgartrefu'r cŵn, sydd, am amryw o resymau wedi'u gadael gan eu perchnogion blaenorol. Tra oeddwn yn y ganolfan, cyfarfûm â nifer o gŵn da a oedd, yn anffodus, wedi dioddef camdriniaeth. Yn wir, mae elusen arall, yr RSPCA, wedi galw ers tro am roi eu gweithgareddau ymchwilio ac erlyn ar sail ffurfiol a fyddai'n grymuso swyddogion rheng flaen i ymyrryd ynghynt, gan leihau'r ddibyniaeth ar awdurdodau lleol a heddluoedd. O ystyried hyn, a gaf fi eich annog i ystyried yr argymhelliad hwn fel bod ein hanifeiliaid anwes annwyl teuluol yn destun ymyrraeth cyn i'r senarios gwaethaf ddigwydd? Diolch.