Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:25, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am hynny. Yn ail, wrth graffu ar y Bil amaethyddiaeth, mae'r pwyllgor rwy'n rhan ohono wedi cymryd tystiolaeth gan undebau ffermio a sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, ac er bod gwahaniaeth barn, ceir consensws a chytundeb cyffredinol. Ond ar ôl derbyn tystiolaeth gan Gymdeithas y Ffermwyr Tenant a Chymdeithas Cominwyr Mynydd Eglwysilan, Mynydd Meio a Chraig Evan Leyshon, mae yna rwystredigaeth ddofn ynglŷn â'r ffaith mai cyfeiriad cyfyngedig yn unig a geir at ffermwyr tenant a thir comin yn y Bil amaethyddiaeth ei hun. Er bod gweithgor tenantiaeth wedi'i sefydlu, a wnewch chi ymrwymo i greu gweithgor ar gyfer tir comin, i sicrhau bod y rhai sy'n ffermio ac yn mwynhau tir comin, sydd bron yn 10 y cant o dir Cymru, yn gallu siapio a chyfrannu at y Bil Amaethyddiaeth?