Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn fwy nag ymwybodol o'r peryglon y mae ffliw adar yn eu hachosi, ac rwy'n croesawu'r camau gan Lywodraeth Cymru i atal ei ledaeniad drwy osod y parth gwyliadwriaeth 10 km o gwmpas y safle heintiedig. Fel y gwelsom gyda COVID, os cymerir camau gweithredu cadarn yn syth gellir sicrhau nad yw'r broblem yn gwaethygu, a galwaf ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r achosion hyn yn uniongyrchol. Er nad yw ffliw adar yn effeithio ar bobl fel arfer, gall y niwed y gallai ei wneud i'r gadwyn gyflenwi dofednod gyfrannu at chwyddo prisiau wyau a chyw iâr ar adeg pan fo cost y cynhyrchion hyn yn cynyddu oherwydd pwysau costau byw. Felly, beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau nad yw ffliw adar yn lledaenu ledled Cymru, i wneud yn siŵr nad yw'n amharu ar gyflenwad dofednod ac nad yw prisiau'n codi ymhellach i fy etholwyr yn sir Ddinbych?