Cymorth Ariannol ar ôl y Polisi Amaethyddol Cyffredin

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:56, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae fy nghwestiwn yn codi, fel ambell gwestiwn arall heddiw, yn sgil y craffu a wnawn ar Fil amaeth Cymru yn y pwyllgorau. Yn fwyaf penodol, un o'r materion a godwyd yr wythnos diwethaf oedd cyllid ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn ogystal â'r hyn a dargedir yn uniongyrchol at ffermwyr, ac rydym yn gwybod bod y gadwyn gyflenwi'n amrywiol—mae'n cynnwys lladd-dai, pacwyr cig, prosesau bwyd a diod yr holl ffordd i'r cwsmer. Yr hyn roeddem yn ei ofyn i'n tystion, a'r hyn yr hoffwn i'r Gweinidog wneud sylwadau arno heddiw efallai, yw sut y bydd yr arian hwnnw'n cael ei rannu ar draws y gadwyn gyflenwi, a sut y bydd hi'n sicrhau, ar ôl y PAC, na fydd cyllid yn cael ei rannu'n rhy denau ac y bydd yn cael ei dargedu yn y mannau cywir.