Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch, Weinidog. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid i’w groesawu’n fawr ac mae wedi cael cefnogaeth gan gyrff lles anifeiliaid er mwyn helpu i sicrhau bod arferion gorau’n cael eu mabwysiadu. Mae rheoleiddio’r sefydliadau hyn hefyd yn bwysig, gan fod hynny'n cau bwlch y gall gwerthwyr trydydd parti fanteisio arno yng nghyfraith Lucy. O ystyried pwysigrwydd y rheoliad hwn, a wnewch chi roi unrhyw ddiweddariadau ar ei gynnydd?