Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:38, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n deall eich bod chi hefyd yn dal ati i bwyso mewn perthynas â'r mater hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â chi a Jane Dodds, yr wythnos ar ôl toriad, rwy'n credu, i drafod y sefyllfa'n fwy manwl. Wrth reswm, rwy'n ymwybodol o gynlluniau'r un trac milgwn sy'n dal i fod gennym yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch, ysgrifennais at y perchennog yn ôl ym mis Mawrth, ac nid wyf wedi cael ymateb. Yr wythnos hon, ysgrifennais at y rheolwr newydd, i ofyn ambell gwestiwn, a hefyd i ofyn am gyfarfod gydag ef. Yn amlwg, mae yna gais cynllunio gerbron Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a bydd hwnnw'n fater iddynt hwy edrych arno, ac yn amlwg, ni allaf wneud sylw mewn perthynas â hynny.

Fel y gwyddoch, fel rhan o'n cynllun lles anifeiliaid a gyhoeddais flwyddyn yn ôl—rydym yn nesu at flwyddyn ers cyhoeddi'r cynllun hwnnw—a oedd yn nodi'r hyn a wnawn mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid dros dymor y Llywodraeth hon, roeddem yn edrych ar weithgareddau trwyddedu sy'n cynnwys anifeiliaid, ac mae hynny'n cynnwys milgwn rasio. Fel y dywedaf yn fy ateb i chi, rwy'n ymwybodol fod yna ddeiseb—mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn chwilio am y Cadeirydd—gerbron y Pwyllgor Deisebau; rwy'n deall bod honno wedi denu 35,000 o lofnodion erbyn hyn. Felly, gallwch weld cryfder teimladau pobl ynglŷn â hynny, ond yn amlwg, fel Llywodraeth, fe gawn olwg ar hynny. Felly, tra byddwn yn aros am ymateb gan y Pwyllgor Deisebau, nid wyf yn credu ei bod yn briodol imi wneud sylw pellach.