Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 26 Hydref 2022.
Ac fel y dywedwyd eisoes gan Samuel Kurtz a’r Gweinidog, a gaf innau ddiolch i’r prif swyddog milfeddygol wrth iddi symud ymlaen o’i rôl? Fel cyn-Weinidog materion gwledig fy hun, gwn yn iawn am yr ymrwymiad 100 y cant a ddangosodd Christianne Glossop i’w rôl, ond hefyd, wrth gwrs, wrth weithio ar draws y pleidiau gwleidyddol a chyda phwyllgorau a’r Senedd yn gyffredinol, ac rwy'n siŵr, ar ran y Senedd, ein bod yn dymuno'n dda iddi gyda beth bynnag a ddaw nesaf, gan fy mod yn siŵr fod llawer i ddod.