Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 26 Hydref 2022.
Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud mewn ateb cynharach: rydym yn dal ar gam cyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, felly nawr yw'r amser i sicrhau bod pawb yn cyflwyno'u safbwyntiau. Soniais am yr arolwg—mae hwnnw'n agored tan 21 Tachwedd. Gofynnwch i unrhyw un sy'n cysylltu â chi gyda phryderon i sicrhau eu bod yn cwblhau'r arolwg.
Mae gennym y tair haen, fel y dywedwch, a'r haen gyffredinol y credaf y gallwn i gyd ragdybio y bydd yn haen fwyaf o'r tair. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod unrhyw un a oedd yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol—. Rwyf eisiau i gymaint o ffermwyr â phosibl allu manteisio ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn amlwg, mae hynny'n cynnwys ffermwyr ar dir comin.