Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:37, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 5 gael eu grwpio. Nid wyf wedi celu fy awydd i fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â lles milgwn rasio yng Nghymru. Mae ein cynllun lles anifeiliaid yn nodi sut y byddwn yn ystyried cyflwyno mesurau pellach. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad y ddeiseb ddiweddar, sydd dan ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.