Cynlluniau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:04, 26 Hydref 2022

Diolch. Yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Rhieni dros Addysg Gymraeg, fe ddyfarnodd yr Uchel Lys ddydd Llun fod penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe yn anghyfreithlon am iddyn nhw fod wedi methu ag asesu effaith hyn ar y Gymraeg ac yn benodol ar addysg Gymraeg. Mae'r dyfarniad wedi'i ddisgrifio fel un o bwys cenedlaethol gan Gwion Lewis, y bargyfreithiwr a gyflwynodd yr achos, gan ei fod yn golygu, meddai, y bydd nawr angen i gynlluniau sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg ac addysg Gymraeg asesu eu heffaith ar y Gymraeg. Tra bod y dyfarniad yn newyddion da i gwm Tawe, mae'n codi cwestiynau ynghylch y safbwynt a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater.

Ymateb y Llywodraeth i'r achos oedd ei bod hi'n fater i'r awdurdod lleol, ond, cyn i wleidyddion fel fi a chyrff fel RhAG a Dyfodol i'r Iaith dynnu sylw at y mater, o gymeradwyo'r cynllun busnes amlinellol roedd y Llywodraeth yn amlwg yn ddigon bodlon ar y cychwyn gyda'r modd y gwnaed yr ymgynghoriad ac yn cytuno â'r hyn a alwyd gan y barnwr yn gamddehongliad o bolisïau’r Llywodraeth ei hun o ran trefniadaeth ysgolion a'r polisi 'Cymraeg 2050'.

Hoffwn ofyn, felly, i'r Llywodraeth ymchwilio i'r ffaith nad oedd dealltwriaeth gan yr adran addysg o'i pholisi ei hun a sicrhau bod cefnogaeth ymarferol, drawsadrannol i'r polisi 'Cymraeg 2050'. Sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a rhaglenni cyfalaf yn cynnwys ystyriaeth briodol o ran effaith pob datblygiad ar y Gymraeg a hefyd sicrhau dealltwriaeth a chapasiti o fewn awdurdodau lleol o ran cynllunio twf y Gymraeg ar draws pob adran?

Yn olaf, er mwyn cefnogi'r newid cyfeiriad sydd ei angen yn yr achos penodol yma, a fydd y Llywodraeth yn ymrwymo i ystyried clustnodi'r arian a addawyd i'r cynllun gwallus a niweidiol hwn i'r Gymraeg i gynllunio ad-drefnu addysg amgen na fydd yn niweidio'r Gymraeg yn y fath fodd, cyhyd â bod y cynlluniau yn cwrdd â gofynion y cynllun cyllido rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy?