Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 26 Hydref 2022.
Yn wir, mae ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a gyhoeddwyd drwy Hwb, wedi nodi bod addysg awyr agored yn arwain at fanteision pendant i blant a phobl ifanc o ran eu hiechyd a’u lles corfforol, ond hefyd eu hiechyd meddwl. Yn ogystal â hyn, canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod gan addysg awyr agored fanteision eithriadol o ran dysgu personol a chymdeithasol, datblygiad gwybyddol a gwerthfawrogiad o’n hamgylchedd, a chyda’n hargyfwng hinsawdd, mae hyn yn bwysicach yn awr nag erioed.
Ynghyd â hyn, mae ymchwil o bob rhan o’r byd wedi nodi ymhellach, os yw plentyn yn profi'r manteision hyn yn ifanc, y bydd hynny'n cael effaith arnynt am weddill eu hoes, gan wneud gwahaniaeth parhaol. Ymhellach, mae maes dysgu a phrofiad iechyd a lles y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig', sy'n rhoi pwys ar ymateb i brofiadau, gwneud penderfyniadau a dylanwadau cymdeithasol. Mae'r rhain oll yn elfennau sylfaenol o addysg awyr agored, fel y'u gwireddir yn llawn drwy brofiad preswyl o addysg awyr agored.
Hoffwn symud ymlaen yn awr at y rhesymau pam fod angen y Bil yma yng Nghymru, a’r hyn y mae’r ymchwil a’r ystadegau a gyhoeddwyd yn ei ddweud wrthym. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r ysgolion a'r sefydliadau sy'n darparu addysg awyr agored ar hyn o bryd, gyda'r gwaith gwych sy'n mynd rhagddo i alluogi hyn i ddigwydd. Y brif resymeg y tu ôl i’m Bil yw nad yw’r holl waith da hwn y mae ysgolion a sefydliadau'n ei wneud ar hyn o bryd yn mynd yn ddigon pell, gan ei fod yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n cyfoethogi yn hytrach na'n rhan hanfodol o addysg, gyda sawl rhan o’n cymunedau ar eu colled oherwydd cyfyngiadau ariannol, ble maent yn byw neu eu cefndir teuluol, a byddaf yn sôn am hynny mewn mwy o fanylder yn y man.
Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos diwethaf, gyda chymorth y sector addysg awyr agored a thîm ymchwil y Senedd, cyhoeddais bapur ystadegol sy’n amlinellu’n gryno yr hyn a welwn ar hyn o bryd gyda’r rhai sy’n cymryd rhan mewn addysg awyr agored, oherwydd, yn anffodus, nid oedd unrhyw ystadegau swyddogol ynghylch nifer yr ymweliadau preswyl addysg awyr agored neu faint o’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru sy’n cael yr ystod glir o fanteision y maent yn eu darparu. Mae’r papur ystadegol hwn wedi cynnal arolwg o 350 o ysgolion ar draws 18 o awdurdodau lleol Cymru, a thrwy weithio gyda Phanel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru, cesglais ddata sy’n dangos pedwar canfyddiad allweddol.
Yn gyntaf, mewn dros draean o ysgolion Cymru, o’r plant y cynigir cyfle iddynt gymryd rhan mewn ymweliadau preswyl addysg awyr agored, mae llai na 75 y cant o blant yn cymryd rhan. Yn ail, nododd 60 y cant o'r ysgolion y gwnaed arolwg ohonynt mai rhesymau ariannol yw'r prif rwystr rhag cymryd rhan mewn ymweliadau preswyl addysg awyr agored. Yn drydydd, nid yw dros un o bob pump o ysgolion Cymru yn cynnig cymhorthdal i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol. Ac yn bedwerydd, mae ymchwil cychwynnol wedi awgrymu hefyd y bydd mwy o blant o ardaloedd mwy cefnog yn cymryd rhan mewn ymweliadau addysg awyr agored, tra bo'r rheini mewn ardaloedd llai cefnog yn cymryd rhan yn llai aml.
Yn wir, canfu canlyniadau'r arolwg fod 65 y cant o ysgolion ym Mlaenau Gwent wedi nodi cyfyngiadau ariannol fel problem; yng Nghaerffili, nododd 70 y cant o ysgolion fod cyfyngiadau ariannol yn broblem; ac yn Rhondda Cynon Taf, nododd 75 y cant o'r ysgolion fod cyfyngiadau ariannol yn broblem, tra bo 45 y cant yn unig yn amlinellu hyn fel problem yn sir Fynwy. Yn ogystal, yn ystod y broses hon, un peth allweddol a nodais yw’r ffaith anffodus mai ymweliad addysg awyr agored, mewn gwirionedd, yw’r unig gyfle o bosibl y caiff rhai o’ch pobl ifanc weld y tu hwnt i’r cymunedau y maent yn byw ynddynt, ac i gael profiad o rywbeth newydd.
Felly, gyda fy mhapur ystadegol, rwy'n siŵr fod dilynwyr brwd fy nghyfrif Twitter a fy nhudalen Facebook wedi gweld dwy erthygl allweddol a rannais yr haf hwn mewn perthynas ag addysg awyr agored. Yn gyntaf, canfu ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd drwy BBC Cymru, fod plant yng Nghymru ymhlith y plant lleiaf heini yn y byd, gydag ymchwilwyr yn rhoi F am ffitrwydd i blant a phobl ifanc Cymru. Canfu ail erthygl gan y BBC, a oedd yn cynnwys ymchwil gan Chwaraeon Cymru, fod plant yn cymryd rhan mewn llai o chwaraeon nag a wnaent bedair blynedd yn ôl, gyda 36 y cant o blant heb fod yn gwneud unrhyw weithgareddau y tu allan i’w gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol, o gymharu â 28 y cant bedair blynedd yn ôl yn unig. Rwy'n siŵr y gall pob Aelod o bob rhan o'r Siambr gytuno nad yw'n iawn nad yw cyfran sylweddol o'n pobl ifanc ledled Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn rhywbeth sydd mor fuddiol, naill ai oherwydd o ble maent yn dod neu sefyllfa ariannol eu teulu. Credaf na allwn sefyll yn ôl a gadael i'n plant fynd yn llai iach a’n pobl ifanc i beidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, ac nid yw’n dderbyniol inni eistedd yma a pheidio â gwneud dim ynglŷn â'r peth.
Gan symud ymlaen at y costau ariannol, y gwn fod yr Aelodau’n awyddus i’w deall yn well, a chredaf ei bod ond yn deg ein bod yn rhoi sylw i'r mater hwn hefyd. Mae’r ymchwil a’r ddealltwriaeth gychwynnol wedi dangos y byddai hyn yn costio rhwng £9.9 miliwn a £13.6 miliwn i’w ariannu, sef oddeutu 0.06 y cant o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru. Serch hynny, ar ôl i'r Bil gael ei roi mewn grym, credaf y byddem yn gweld manteision ariannol o ganlyniad iddo mewn gwirionedd, gydag arbedion i wasanaethau cyhoeddus drwy welliannau i iechyd, llesiant, gwasanaethau iechyd meddwl a chanlyniadau addysg, ynghyd â gwell gwerthfawrogiad o’r amgylchedd. Yn ogystal â hynny, byddai cyflwyno a chefnogi’r Bil hwn yn cyfrannu at bedwar diben allweddol Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru: byddem yn gweld dysgwyr hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol a galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; byddem yn gweld cyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; byddem yn gweld dinasyddion mwy moesegol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd; ac yn olaf, byddem yn gweld unigolion iachach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau hefyd ynglŷn â sut y mae hyn yn gweithio mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Fel y bydd rhai yn gwybod, mae Bil addysg awyr agored yn gweithio'i ffordd drwy Senedd yr Alban ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol siarad â chymheiriaid yno a deall bod cefnogaeth drawsbleidiol yno hefyd i gynnig o'r fath. Mae hefyd yn bwysig amlinellu’r cymorth sy’n dod o’r sector addysg awyr agored mewn perthynas â’r Bil hwn, oherwydd er imi fod yn gweithio arno dros y tri mis diwethaf, ni allaf honni o gwbl fy mod yn arbenigwr, yn wahanol i’r rheini yn y sector addysg awyr agored, sy'n byw, yn anadlu ac yn gweithio addysg awyr agored o ddydd i ddydd. A bydd yr Aelodau’n nodi, gan fy mod yn siŵr eu bod wedi darllen y memorandwm esboniadol, yn adran 41, y gefnogaeth gref gan sefydliadau awyr agored blaenllaw ledled Cymru, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, y Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored, Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored, y Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored a'r Cerddwyr. Ddirprwy Lywydd, mae yna nifer o sefydliadau y gallwn barhau i'w rhestru, ond mae llawer iawn o gefnogaeth i'r Bil hwn.
Hefyd, hoffwn fynegi fy nealltwriaeth a'r realiti fod angen gwneud llawer mwy o waith gyda’r Bil hwn. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf fi a llawer o bobl eraill wedi dod o hyd i lawer o waith a data arwyddocaol yn ymwneud â pham fod angen y Bil, ond wrth gwrs, mae angen gwneud mwy i ddeall hyn yn llawn. A dyna pam y credaf fod rôl hollbwysig i Aelodau’r wrthblaid ac Aelodau meinciau cefn y Senedd hon allu gweithio’n drawsbleidiol i gyflwyno newidiadau cadarnhaol a pharhaol a fydd yn ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Mae’n hollbwysig nodi hefyd, drwy gefnogi’r cynnig heddiw, ei fod yn caniatáu imi ddechrau’r broses o weithio’n ddiflino dros y flwyddyn nesaf, law yn llaw â’r sector awyr agored, i gasglu mwy o dystiolaeth a data ynghylch yr angen am ymweliadau preswyl addysg awyr agored, ac o ganlyniad, i gyflwyno hyn i'r Senedd ymhen blwyddyn. Ond mae'n bwysig ailadrodd y gellir defnyddio pleidlais heddiw fel cyfle i Aelod o'r meinciau cefn a'r wrthblaid geisio cyflwyno deddfwriaeth bwysig a fydd yn sicrhau newidiadau parhaol ac yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau a staff sydd wedi gweithio'n ddiflino i fy helpu i gynhyrchu memorandwm esboniadol y Bil, y papur ystadegol, ynghyd â chrynodeb o'r Bil. Ond hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau ar draws y Senedd am roi amser o’u hamserlenni prysur i drafod y Bil hwn gyda mi, ynghyd â’r Gweinidog addysg, yr edrychaf ymlaen at glywed ganddo yn ddiweddarach yn y ddadl hon, a’i drafodaethau cadarnhaol hyd yn hyn. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau i’r cynnig heddiw, ac rwy'n croesawu trafodaethau a chwestiynau ynglŷn â fy nghynigion. Diolch yn fawr iawn.