Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 26 Hydref 2022.
Nid wyf yn dilyn eich cyfrifon Twitter a Facebook yn frwd, rhaid imi gyfaddef; rwy'n hoffi edrych ar ôl fy mhwysedd gwaed. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi gweld yr ymchwil y cyfeirioch chi ati, ac yn sicr gallwn i gyd ailadrodd y manteision dirifedi sy'n gysylltiedig ag addysg awyr agored. Fel y soniodd Huw, mae llawer ohonom wedi cael y pleser o fod yn Llangrannog, Glan-llyn—mae pob un o'r rheini'n brofiadau amhrisiadwy, ac rwy'n siŵr yr hoffem weld pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle hwnnw.
Byddwn yn eich cefnogi i fwrw ymlaen â'r Bil. Rydym yn credu ei bod yn bwysig fod rhai o'r materion a godwyd yn cael eu harchwilio ymhellach. Wrth gwrs, mae gennym gwestiynau ynghylch y cyllid. Mae yna rai cwestiynau a amlinellais pan wnaethom gyfarfod a thrafod rhai o'r pethau ymarferol, ond credwn ei fod yn haeddu cael amser ychwanegol a ffocws ychwanegol er mwyn i ni ddeall pwy sy'n cael manteisio ar y cyfle hwn a phwy nad yw'n cael gwneud hynny, pa risgiau sy'n codi o'r argyfwng costau byw gydag awdurdodau lleol o ran y rhai sy'n cael eu hamddifadu o'r profiadau hyn ar hyn o bryd, oherwydd ni allwn gymryd hynny'n ganiataol. Yn fwyaf arbennig, y peth a'n hargyhoeddodd yn fawr oedd bod y dystiolaeth yn dangos, yn bryderus, fod dwbl canran y plant sy'n byw yn yr awdurdodau lleol mwyaf cefnog yn mynychu ymweliadau preswyl addysg awyr agored o gymharu â disgyblion yn yr awdurdodau lleol sydd â'r lefelau uchaf o amddifadedd. Os ydym yn sôn am sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd dylai hynny olygu pawb, nid yn unig y rhai mwyaf cefnog a'r rhai sy'n gallu fforddio gwneud hynny. Felly, hyd yn oed os yw'n fater o edrych ar sut y darparwn ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn grantiau ar gyfer gwisgoedd ysgol ac yn y blaen, byddem wrth ein boddau'n gweld hyn yn cael ei ehangu fel bod mwy o blant a phobl ifanc yn gallu elwa.
Rwy'n credu bod yna bethau y gallwn eu plethu i mewn i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg hefyd, a'n cytundeb i weithio ar Fil addysg y Gymraeg, oherwydd mae'r cyfle y mae addysg awyr agored yn ei ddarparu i blant a phobl ifanc fwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i hyn hefyd, i allu bod yng Nglan-llyn mewn canŵ a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg, i gael yr holl brofiadau sy'n cyfoethogi bywyd. Oherwydd mae'r profiadau addysg awyr agored hyn ar gyfer mwy na'r rhai sydd mewn addysg Gymraeg ar hyn o bryd yn unig. Os ydym o ddifrif am y Gymraeg fel continwwm sengl, mae hyn yn rhoi cyfle gwych i gyflwyno'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth, mewn ffordd hwyliog a deniadol. Gwn fod yr Urdd wedi cofleidio'r cyfleoedd a ddarparir gan y Bil hwn yn arbennig. Oni fyddai'n rhyfeddol pe bai pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i fynd i Wersyll yr Urdd yma yng Nghaerdydd, neu Langrannog neu Lan-llyn, a chael y profiad hwyliog hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg? Mae hyn i gyd yn bosibl.
Rydym yn credu bod rhai pethau—. Wrth gwrs, cyllid yw'r peth mwyaf heriol. Mae penderfynu ar y cyllidebau ar gyfer ymweliadau preswyl a llunio cynllun cynhwysfawr i gyd yn bwysig, ond rydym yn cytuno â'r egwyddor, ni waeth beth fo'u hincwm teuluol neu ddemograffeg, y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle hwn. Mae angen i ni ystyried ymgysylltiad athrawon hefyd wrth gwrs. Mae athrawon, yn aml iawn, yn trefnu mentrau o'r fath yn ychwanegol at yr hyn y maent yn ei wneud eisoes. Mae'n amlwg yn golygu amser i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth hefyd, ond maent yn ei ystyried yn werthfawr, felly hoffem weld undebau athrawon yn rhan o'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo. Ond rydym yn dymuno pob lwc i chi ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu'n fwy cadarnhaol, os eir ymlaen â hyn.