Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud yn gyntaf ei bod yn bleser ceisio cytundeb y Senedd heddiw imi gyflwyno fy Mil Aelod, Bil addysg awyr agored (Cymru)? Fel y gŵyr yr Aelodau, yn ôl ym mis Gorffennaf, cefais fy newis drwy bleidlais Aelodau i gyflwyno Bil. Yn amlwg, ers mis Gorffennaf, nid oes llawer iawn wedi digwydd ym myd gwleidyddiaeth yn y DU, ond rwyf fi yn sicr wedi bod yn brysur iawn, gan weithio gyda chynrychiolwyr o'r sector addysg a gweithgareddau awyr agored, prifysgolion, cynghorau, Aelodau o'r Senedd, ysgolion a disgyblion ar gyflwyno'r hyn sydd nid yn unig yn Fil hynod gyffrous yn fy marn i, ond un a fydd hefyd yn sicrhau ystod o fanteision hirdymor.
Yn ôl ym mis Gorffennaf, cefais y pleser o gyhoeddi memorandwm esboniadol 16 tudalen, a oedd yn archwilio amcanion polisi’r Bil hwn a’r gefnogaeth a ddaeth i law i’r Bil, ynghyd â’r ffactorau ariannol i’w hystyried. Rwy'n siŵr fod pob Aelod eisoes yn gwybod hyn, gan fy mod yn siŵr fod pob un ohonom wedi darllen pob gair ohono; serch hynny, bydd yr Aelodau'n falch o nodi y byddaf yn trafod y pwyntiau o'r memorandwm esboniadol drwy fy nghyfraniad heddiw, lle byddaf yn dechrau drwy amlinellu beth yw'r Bil, yn ail, byddaf yn amlinellu pam fod addysg awyr agored mor bwysig, byddaf yn esbonio pam fod angen y Bil hwn, byddaf yn egluro agweddau ariannol y Bil hefyd, ac yn olaf, byddaf yn amlinellu'r camau nesaf, yn fy marn i, ar gyfer bwrw ymlaen â'r cynnig hwn.
Felly, yn fyr, bydd y Bil yn sefydlu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ymweliad addysg awyr agored preswyl wythnos o hyd, pedair noson, ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa ysgol. Bydd hyn yn cael ei roi ar waith drwy sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynnig y profiadau hyn i’n holl bobl ifanc, a fyddai'n para, fel y dywedais, am o leiaf wythnos—pedair noson—ar ryw adeg yn ystod eu blynyddoedd yn yr ysgol.
Wrth gwrs, rwy’n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau’n meddwl: o’r holl gynigion polisi y gallwn fod wedi ceisio'u cyflwyno, pam y dewisais addysg awyr agored? Y prif reswm y tu ôl i hyn yw fy argyhoeddiad sylfaenol ynghylch pwysigrwydd addysg awyr agored i addysg a datblygiad cyffredinol plentyn. Fy nyhead i, a dyhead llawer o Aelodau’r Senedd, rwy'n credu, yw y dylai plant, ni waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol, eu hanghenion dysgu ychwanegol, eu cefndir diwylliannol neu eu lleoliad daearyddol, gael mwynhau’r manteision gwych a hirhoedlog y gall addysg awyr agored eu cynnig. Yn ogystal â hyn, rwyf fi ac Aelodau o bob rhan o’r Siambr wedi gweithio gyda’r sector gweithgareddau awyr agored dan gadeiryddiaeth ragorol Huw Irranca-Davies o grŵp trawsbleidiol y sector gweithgareddau awyr agored, a fu'n gymorth i mi ac aelodau’r grŵp trawsbleidiol i ddeall gwir fanteision addysg awyr agored. Rwy’n siŵr y bydd llawer o Aelodau’r Senedd yn cofio bod ar ymweliadau preswyl addysg awyr agored, gan greu atgofion, magu hyder a pharatoi ein hunain ar gyfer degawdau i ddod. Yn anffodus, rwyf hefyd yn siŵr fod yna Aelodau yma na fyddant wedi cael cyfle i gael y profiad anhygoel hwn eu hunain.