Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar gofynnodd etholwr sy'n ei chael hi'n anodd talu ei biliau, 'Beth yw pwynt Llywodraeth Cymru os na allant ein helpu?' Mae'n gwestiwn dilys, oherwydd pa les yw datganoli os ydym yn ddi-rym i warchod ein dinasyddion mwyaf bregus fan lleiaf? Mae'r cynnig sydd o'ch blaen yn ffordd o wneud y pwerau sydd gennym, yr adnoddau y gallwn eu defnyddio, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy sicrhau bod pob punt—pob punt Gymreig o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig—yn cyrraedd pocedi pobl mor hawdd a chyflym â phosibl. Mae'r diffygion, y gwahaniaethau, a dros y degawd diwethaf o reolaeth y Torïaid yn San Steffan, y creulondeb llwyr sy'n nodweddu system les y DU wedi achosi caledi i ddegau o filoedd o Gymry ac wedi arwain at orfodi Llywodraeth Cymru i gamu i'r adwy lle mae San Steffan wedi gwneud cam â Chymru.
Rhoddodd Deddf yr Alban 2016 bwerau newydd i'r Alban mewn perthynas â nawdd cymdeithasol, gan gynnwys cyfrifoldeb dros fudd-daliadau penodol, y mae Llywodraeth yr Alban yn eu defnyddio i greu system nawdd cymdeithasol yn yr Alban yn seiliedig ar urddas, tegwch a pharch. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro byd dros ddatganoli gweinyddu lles i Gymru, ac rydym yn falch o symud ymlaen ar y mater hwn drwy ein cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond tra byddwn yn aros am gynnydd ar yr uchelgais hwnnw, mae'r cymorth sydd ar gael o goffrau Cymru wedi bod yn cynyddu'n gyflym ac felly'n esblygu'n glytwaith o daliadau a ddarparir yn bennaf gan yr awdurdodau lleol, er nad yn llwyr. Weithiau mae'r taliadau'n ddarostyngedig i brawf modd, weithiau'n gysylltiedig â budd-daliadau penodol, gydag amodau cymhwysedd amrywiol, gwahanol ffurflenni a rheoleidd-dra talu, a dulliau o wneud ceisiadau ar wahân i'w gilydd yn bennaf, dulliau sy'n aml yn gymhleth.
Gadewch inni edrych ar y cynlluniau sydd ar gael i helpu gyda biliau tanwydd er enghraifft. Yng Nghymru, mae gennym gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a ailenwyd yn ddiweddar yn ei ail gyfnod cyflwyno o'r mis Medi hwn yn gynllun cymorth tanwydd Cymru. Gall aelwydydd cymwys ar fudd-daliadau penodol rhwng misoedd penodol hawlio taliad ariannol untro gan eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn wahanol i'r taliad tanwydd y gaeaf a'r taliad tywydd oer sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU. Mae'r cynllun talebau tanwydd yn fath newydd o gymorth i ddarparu cymorth mewn argyfwng i aelwydydd sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni, gan ddarparu talebau ychwanegol i'r rhai ar fesuryddion rhagdalu a gwasanaeth argyfwng i aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy. Ond ni allwch wneud cais; rhaid i aelwydydd gael eu cyfeirio. Mae'r gronfa cymorth dewisol yn darparu dau fath o grant, ac mae un ohonynt, y taliad cymorth mewn argyfwng, ar gael tan ddiwedd mis Mawrth i helpu aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy sy'n dioddef caledi ariannol i dalu am olew ychwanegol ac LPG. Mae'r rhai sydd angen cymorth brys tuag at nwy ychwanegol a mesuryddion rhagdalu trydan yn gallu cael cymorth hefyd, ond os chwiliwch chi am y gronfa cymorth dewisol ar Google, fe gewch dudalen Llywodraeth Cymru nad yw'n crybwyll hyn o gwbl. Unwaith eto, rhaid i geisiadau gael eu gwneud drwy weithiwr cymorth. Felly, fe welwch sut mae pethau: amodau cymhwysedd gwahanol, rheolau gwahanol, prosesau gwahanol ar gyfer gwneud ceisiadau. Ac mae hyn i gyd i fod i helpu pobl sydd mewn argyfwng, sydd, i fod yn onest, heb fod yn y lle iawn yn feddyliol i fynd ar drywydd hyn i gyd tra'u bod yn poeni sut i gadw eu plant yn gynnes. A dim ond cymorth gyda thanwydd yw hyn.
Mae Sefydliad Bevan yn dadlau dros yr angen am system fudd-daliadau Gymreig a gwasanaethau datganoledig. Mae ei ymchwil i'r ffordd y cafodd y taliadau cymorth, lwfansau a grantiau Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol hyn eu gweinyddu yn awgrymu y gallai newidiadau i gynlluniau unigol a'u hintegreiddio'n system ddi-dor gynyddu eu cyrhaeddiad a'u heffaith. Pan wnaeth y galwadau hyn am y tro cyntaf, roedd yna 12 grant a lwfans gwahanol, pob un yn cael eu gweinyddu ar wahân, felly, hyd yn oed pan oedd meini prawf cymhwysedd yr un fath, roedd rhaid i bobl wneud cais am bob math o gymorth ar wahân. Fel yn achos yr enghraifft a roddais ynghylch taliadau cymorth tanwydd, mae llawer mwy wedi'u cyflwyno neu gymhwysedd wedi'u ehangu ers dechrau'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Ac felly dim ond cynyddu y mae'r sail a'r ddadl dros greu un system integredig ddi-dor.
Ac nid yw cymorth yn gymorth os nad ydych chi'n gwybod ei fod yno neu os nad yw'n hygyrch. Roedd yr arolwg diweddaraf gan Plant yng Nghymru yn cynnwys y farn hon gan un ymarferydd sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd:
'Nid yw’n ddigon i ddweud bod pobl heb wybodaeth am yr hyn y gallan nhw ei hawlio. Fyddai llawer o’r bobl agored i niwed rwyf fi’n eu gweld yn methu cael hyd i ffordd trwy’r system gymhleth hon heb lawer o gefnogaeth barhaus.'
Dylem gofio hynny wrth nodi bod llai na hanner yr aelwydydd cymwys wedi gwneud cais am rownd gyntaf y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf.
Mae mudiadau fel Home Start Cymru, sy'n gweithio ar draws 18 awdurdod lleol i gefnogi teuluoedd â phlant, yn cytuno bod angen gwella a symleiddio'r sefyllfa. Mewn cyfarfod diweddar o grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dlodi, fe wnaethant rannu safbwyntiau o'u prosiect Cefnogi Pobl Caerffili. Dywedodd un fam nad oedd hi'n gwybod bod dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y taliad costau byw ac felly ei bod ar ei cholled. Dywedodd un arall, 'Cefais daliad o £326 i mewn yr wythnos o'r blaen. Nid wyf yn siŵr ar gyfer beth y mae. Ond mae'r cyfeiriad ar fy nghyfrif banc yn dweud mai dim ond rhif ydyw.' Rhannodd staff pa mor anodd yw cefnogi teuluoedd gyda system mor gymhleth i'w llywio. Un broblem gyffredin yw bod cynghorwyr yn dweud na allant weithredu ar ran teuluoedd i helpu i ddatrys pethau fel hawliadau gostyngiadau'r dreth gyngor; mae angen caniatâd ysgrifenedig.
Ac rwy'n credu bod y dyfyniad canlynol gan weithiwr cymorth yn crisialu'r angen am newid fel y mae'r cynnig yn ei argymell: 'Tad sengl oedd un o'r bobl a gefnogais. Er ei fod yn cael credyd cynhwysol ac yn dibynnu ar fanciau bwyd, roedd wedi bod yn talu swm llawn y dreth gyngor ers 14 mis. Fe ganfyddais nad yw cynghorwyr y dreth gyngor yn gofyn a ydych chi ar fudd-daliadau.' Gwyddom mai ôl-ddyledion y dreth gyngor yw'r broblem ddyledion fwyaf i aelwydydd Cymru. Byddai cysylltu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor â chymhwysedd i gael credyd cynhwysol yn atal pobl rhag mynd i ddyled. Byddai manteision yn sgil gostwng costau gweinyddu a chapasiti'n cael ei ryddhau i awdurdodau lleol a chynghorwyr allu hyrwyddo budd-daliadau, gan roi hwb pellach i'r nifer sy'n eu cael.
Wrth ateb cwestiynau blaenorol yn y Senedd ar wella a sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn eu cael, nododd y Gweinidog y gwaith parhaus, megis gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio sut y gellid datblygu un pwynt mynediad a rhannu arferion gorau drwy gyhoeddi pecyn cymorth ar sut i symleiddio'r broses ymgeisio. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi dweud y gall awdurdodau lleol sicrhau pasbort i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor i gynllun cymorth tanwydd Cymru, ond mae llai na hanner ein hawdurdodau lleol yn gwneud hynny. Mae angen dull cyfannol, system gyfan.
Mae'r Gweinidog wedi siarad am y gwaith ar greu siarter ar gyfer darparu'r taliadau hyn. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod ymchwil yn cael ei wneud gan Policy in Practice, a ariennir gan sawl sefydliad, i edrych ar sut y gellir cyflawni dull cyffredin a fyddai'n arwain at ddull 'dim drws anghywir' y gwyddom ei fod mor hanfodol ac effeithiol. Fy nadl i yn hyn o beth yw na fydd siarter, sef canllawiau i bob pwrpas, yn ddigon. Ni fydd yn osgoi loteri cod post; ni fydd yn osgoi'r tyllau yn y rhwyd ddiogelwch hollbwysig honno. Mae angen troedle statudol cadarn ar gyfer system sy'n seiliedig ar hawliau a fydd yn sicrhau cydlyniad ac effeithiolrwydd, ac yn caniatáu i bobl wneud cais am yr holl gymorth y mae ganddynt hawl i'w gael mewn un lle. Ac yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau rheoleiddio dros lywodraeth leol, felly mae modd cyflawni hyn.
Byddai cost i greu system sy'n siarad â'r holl systemau sydd angen iddi siarad â hwy, ond mae'r manteision yn amlwg. Yn bwysicaf oll, bydd yn helpu'r rhai sydd angen pob un geiniog o help i gadw'r gwres ymlaen, i gadw'r golau ymlaen, i roi dillad am y plant a bwyd yn eu boliau. Diolch.