7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod — Bil Manteisio ar Fudd-daliadau

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:25, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae ymwybyddiaeth o'r cymorth ariannol sydd ar gael, boed wedi'i ddatganoli neu heb ei ddatganoli, yn cynyddu mewn cartrefi ar draws Cymru oherwydd llwyddiant ymgyrchoedd fel 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae dros 9,000 o bobl hyd yma yn cael cymorth i hawlio dros £2.6 miliwn o incwm ychwanegol yn yr adroddiadau diweddaraf, ac rwy'n diolch i'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, am eu cefnogaeth i'n hymgyrch gyda'n gilydd i annog pobl ledled Cymru i hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo drwy hyrwyddo ein deunyddiau ymgyrchu.

Ond er ein bod yn gwneud gwaith rhagorol gyda'n gilydd i godi ymwybyddiaeth, rwy'n cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud i symleiddio system fudd-daliadau Cymru, a dyna lle rydym yn canolbwyntio ein gweithredoedd. Ar hyn o bryd, bydd unigolion yn aml yn gorfod llenwi sawl ffurflen sy'n gofyn am wybodaeth debyg ond sydd angen eu hanfon at adrannau gwahanol. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhwystro pobl rhag manteisio ar eu hawliau, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn gwbl ymrwymedig i weledigaeth gyffredin o system fudd-daliadau Gymreig sydd ag un pwynt cyswllt, lle nad oes raid i unigolyn ddweud ei stori fwy nag unwaith.

Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio gyda fy swyddogion i wneud gwaith archwilio a nodi atebion a fydd yn caniatáu ar gyfer system gydlynol, unedig, ac rwy'n croesawu'r ymchwil ar wahân sy'n cael ei harwain gan Sefydliad Bevan ar y rhwystrau rhag hawlio budd-daliadau Cymreig. Fodd bynnag, tra byddwn yn gweithio tuag at y nod hwn, rydym yn parhau i gyflawni gwelliannau. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y dull o weinyddu budd-daliadau Cymreig yn un sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn dosturiol, yn seiliedig ar hawliau. Mae'r gwaith a wnawn i symleiddio system fudd-daliadau Cymru yn cefnogi ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ar ddatganoli gweinyddu lles ac archwilio'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer hyn.

Elfen hanfodol o'r gwaith hwn yw'r siarter fudd-daliadau, cyfres sylfaenol o egwyddorion ar gyfer system fudd-daliadau Gymreig y gwnaethom ei chreu gyda rhanddeiliaid o'n grŵp uchafu incwm. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â'n siarter o'r cychwyn cyntaf hyd at ei gweithrediad drwy ymgysylltu â phobl sy'n hawlio budd-daliadau Cymreig a phartneriaid cyflawni. I gyd-fynd â siarter fudd-daliadau, mae gennym becyn cymorth arferion gorau ar gyfer awdurdodau lleol, sy'n cynnig awgrymiadau ymarferol ac arweiniad ar weinyddu budd-daliadau Cymreig. Rydym wedi datblygu'r pecyn cymorth hwnnw mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gan ddefnyddio'u profiad ymarferol a gweithredol. Credwn mai gweithio ar y cyd â'n cydweithwyr llywodraeth leol yw'r ffordd fwyaf priodol o gyflwyno'r pecyn cymorth yn effeithiol, ac rydym yn gweithio gyda hwy i rannu a chyfnewid arferion da i hybu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yng Nghymru.

Yn ddiweddar, gwelsom nifer o enghreifftiau o arferion gorau, o daliadau newydd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, yn fwyaf arbennig gydag awtomeiddio'r taliad costau byw o £150, a anfonwyd yn uniongyrchol at unigolion cymwys mewn llawer o achosion heb fod angen iddynt wneud cais—dull sydd bellach wedi'i fabwysiadu gan awdurdodau o dan gynllun cymorth tanwydd presennol Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae dros 185,000 o daliadau eisoes wedi eu talu mewn llai na mis.

Felly, rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn, boed yn gweithio ar y rheng flaen yn helpu unigolion i hawlio budd-daliadau Cymreig, neu'n gyfrifol am weinyddu'r budd-daliadau hynny, am eu hymrwymiad parhaus i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu hawlio'r hyn sydd ar gael iddynt. Dyna lle rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ni allaf siarad mewn dadl ar fudd-daliadau heb sôn am yr aelwydydd ledled Cymru sy'n wynebu trafferthion ariannol dyddiol, gyda'r lefel uchaf o chwyddiant ers dros 40 mlynedd. Rwy'n gwybod y bydd holl Aelodau'r Senedd ar draws y Siambr yn ymuno â'm galwad ar y Canghellor i wneud y peth iawn a chadarnhau na fyddant yn torri eu haddewidion blaenorol, ac y byddant yn uwchraddio'r holl fudd-daliadau nawdd cymdeithasol 10.1 y cant o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Diolch.