Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 26 Hydref 2022.
Mae achosion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hynod gymhleth. Am y rheswm hwnnw, ychydig iawn o werth a welwn mewn beio unrhyw un am ei achosion sylfaenol. Ond rydym yn glir fel pwyllgor fod angen i lawer o bethau newid. Clywsom dro ar ôl tro gan weithwyr proffesiynol a chan bobl ifanc, er gwaethaf pocedi o arferion da, fod addysg rhyw a pherthnasoedd yn wael yn gyffredinol. Clywsom nad oedd yn cael ei darparu'n ddigon da, ei bod yn annigonol, o ansawdd gwael, ac weithiau hyd yn oed yn gwbl absennol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu am achosion sylfaenol aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
Clywsom dro ar ôl tro fod y cwricwlwm newydd yn gyfle i wella addysg rhyw a pherthnasoedd. Gobeithiwn y caiff ei botensial ei wireddu. Ond ni fydd unrhyw blentyn sydd ym mlwyddyn 8 neu uwch ar hyn o bryd—y rhai yn y perygl mwyaf o wynebu aflonyddu rhywiol gan gyfoedion—byth yn cael eu haddysgu o dan y cwricwlwm newydd. Felly, boed yn yr hen gwricwlwm neu'r cwricwlwm newydd, mae'n rhaid i newid ddigwydd yn gyflym er lles pob dysgwr. Clywsom hefyd gan bobl ifanc fod staff ysgolion yn aml yn bychanu eu profiadau o aflonyddu rhywiol, yn diystyru eu pryderon, neu hyd yn oed yn anwybyddu arwyddion ei fod yn digwydd yn llwyr. Mae'n rhaid i bob ysgol ddweud yn gwbl glir wrth eu dysgwyr fod aflonyddu rhywiol yn annerbyniol. Mae'n rhaid iddynt ymateb i adroddiadau o ddifrif, yn brydlon ac yn gyson.
Rydym wedi gofyn i Estyn ddiwygio eu fframwaith arolygu ar gyfer ysgolion a cholegau i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae sefydliadau addysg yn cadw cofnodion o aflonyddu rhywiol, sut y maent yn ymateb i honiadau o aflonyddu rhywiol, ac yn cefnogi dysgwyr sydd wedi’i wynebu. Ond rydym yn deall nad yw llawer o staff ysgolion yn teimlo eu bod wedi cael hyfforddiant digonol i allu ymateb i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hyderus. Nid yw'n hawdd sgwrsio â phobl ifanc am ymddygiad rhywiol afiach. Mae angen cefnogaeth ar staff ysgolion. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer hyfforddiant i bob aelod o staff ysgolion, nid staff addysgu'n unig, i nodi achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, ymateb iddynt a rhoi gwybod amdanynt.
At ei gilydd, gwnaethom 24 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rwyf eisoes wedi crybwyll rhai ohonynt, ond cyn imi droi at fy nghyd-Aelodau ar draws y Senedd ac yn y Llywodraeth am eu cyfraniadau, hoffwn ychwanegu ychydig rhagor. Efallai mai’r pwysicaf yw bod yn rhaid i bobl ifanc fod yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu ymateb Llywodraeth Cymru i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ar ffurf bwrdd cynghori pobl ifanc. Ein gobaith yw y bydd y bwrdd hwn yn llywio camau gweithredu mewn perthynas â rhai argymhellion allweddol: ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol wedi’i thargedu at ddysgwyr a’u teuluoedd; adolygiad o'r cymorth a gynigir i ddioddefwyr aflonyddu rhywiol; a datblygu cronfa o ddulliau effeithiol o ddarparu addysg rhyw a pherthnasoedd.
Ni wyddom ddigon am raddfa a natur aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd a cholegau. Clywsom y gall ddechrau ymhlith plant mor ifanc â naw oed, sy'n peri cryn bryder. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad sy’n addas i'r oedran o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i adolygiad tebyg mewn colegau, gwaith hollbwysig y mae pob un ohonom yn falch ei fod ar y gweill. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr yma heddiw yn y Senedd, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith a wnaethpwyd hyd yma a’r amserlen ar gyfer y gwaith sydd i ddod i roi’r argymhellion a dderbynnir ar waith.
Hefyd, hoffwn gyflwyno rhai pryderon i’r Gweinidog a godwyd gyda ni gan randdeiliaid pan ofynnwyd am adborth ar ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad. Y cyntaf: a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod effaith aflonyddu rhywiol ar bobl ifanc a’r effaith hirdymor y gall ei chael ar fywyd plentyn, hyd yn oed os nad yw wedi'i gategoreiddio fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod? Yn ail: nad yw'r cyllid a ddarperir ar gyfer hyfforddiant i staff ysgolion ar roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ac ymateb iddynt yn dod ar draul cefnogaeth a hyfforddiant mawr eu hangen i staff ysgolion mewn meysydd eraill.
Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i ni y bydd pobl ifanc yn rhan ystyrlon ac uniongyrchol o'r gwaith o gyd-ddatblygu ymateb y Llywodraeth i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, o weithio ar yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol i ddatblygu set o sesiynau ar arferion gorau i ysgolion eu haddysgu am effaith aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion? Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau gan aelodau’r pwyllgor a’r holl Aelodau ar draws y Senedd, a chan y Gweinidog. Diolch yn fawr.