8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg — 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:56, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig iawn, a chredaf ei fod yn amserol iawn hefyd. Ond  fel y dywedodd Laura Anne Jones, rwy'n credu bod lefel yr aflonyddu rhywiol mor gyffredin fel bod gwir angen ymateb ar draws y gymdeithas gyfan. Ond mae'n bendant yn ategu pwysigrwydd addysg orfodol ar berthnasoedd a rhywioldeb, gan fod angen addysgu pobl ifanc ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Mae'r bwystfilod drwg hyn, sy'n gyfleus iawn i bob un ohonom, mae rhieni'n rhoi'r pethau hyn i'w plant heb sylweddoli beth maent yn rhoi mynediad iddynt ato. Cytunaf yn llwyr â lle rydych yn sôn am bwysigrwydd cael dull gweithredu cyson mewn perthynas â ffonau symudol yn yr ysgol, gan nad oes unrhyw reswm o gwbl pam y dylai unrhyw un gael ffôn symudol ymlaen pan fyddant mewn gwersi. Gallant eu cadw yn eu bagiau fel eu bod ganddynt pan fyddant yn mynd adref, ond ni ddylent gael eu gweld yn yr ysgol, a dylent gael eu cymryd oddi arnynt os cânt eu gweld, yn fy marn i.

Credaf hefyd fod eich pwyslais ar gadw cofnodion da, yn ogystal ag addysg perthnasoedd a rhywioldeb o ansawdd, yn gwbl hanfodol, oherwydd oni bai bod gan ysgolion ddull sy'n ystyriol o drawma o ymdrin â phroblemau ymddygiad unigolyn ifanc, neu'n wir, eu habsenoldeb o'r ysgol, nid yw'r ysgol yn deall beth sy'n digwydd. Yn syml iawn, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod bod yr ysgol yn lle diogel lle gallant ddweud wrth bobl beth sy'n digwydd iddynt, oherwydd y dystiolaeth yn yr ysgol lle rwy'n llywodraethwr oedd mai'r ysgol yw'r lle mwyaf diogel yn eu bywydau mewn gwirionedd. Yn anffodus, maent yn wynebu aflonyddu gartref ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft.

Roeddwn yn falch iawn heddiw o gael ymateb i lythyr a ysgrifennais at Bws Caerdydd am yr adroddiadau o aflonyddu rhywiol ar fysiau, ac roedd yn llythyr gwirioneddol wych, a ddywedodd eu bod yn rhoi sylw difrifol i'r mater, fod eu hystafell reoli yn rheoli beth yn union sy’n digwydd ar bob bws, a’u bod yn mynd i ysgrifennu at ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill fel bod gennym ddull system gyfan mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Felly, credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr.

Ond beth bynnag, diolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am ei waith ar hyn, ac yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy’n mynd i fod yn waith parhaus i ni.