8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg — 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:46, 26 Hydref 2022

Yr hyn a oedd yn amlwg i ni o'r dystiolaeth a glywsom ni fel pwyllgor oedd bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin fel ei fod yn cael ei dderbyn fel ymddygiad normal. Hwnna oedd y peth mwyaf trawiadol i fi, yn sicr, a bod ysgolion hefyd yn cael trafferth i ddelio gyda hyn yn effeithiol. Mae'r effaith yn un sydd, mewn rhai achosion, yn effeithio'n ddifrifol ar les, cyrhaeddiad ac iechyd dysgwyr. Fel dywedodd Laura Anne Jones, roedd yr hyn y clywson ni gan y bobl ifanc eu hunain yn hynod werthfawr, a'u syniadau ynglŷn â sut dylid delio gyda'r broblem—pethau syml ond amlwg, fel bod angen poster i esbonio beth sy'n dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi prif argymhellion yr adroddiad, sef ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth gyda phrofiad a barn pobl ifanc yn ganolog iddi hi, a'r galwadau ar Lywodraeth Cymru ac Estyn i sicrhau bod ysgolion yn ymateb yn well, yn cadw cofnodion gwell, ac yn cefnogi disgyblion yn well, yn ogystal â'r angen i gynnal adolygiad o'r sefyllfa yn ein hysgolion cynradd, achos mae'r agweddau sy'n creu'r broblem hon yn dechrau amlygu eu hunain o oedran ifanc, ac fe gawson ni dystiolaeth o hynny yn ein hymchwiliad. Mae mwyafrif llethol y rhai sy'n profi'r aflonyddu yn ferched, ac mae disgyblion LHDTC+ a disgyblion eraill sydd â nodweddion lleiafrifol hefyd yn fwy tebygol o brofi aflonyddu. Roedd yn glir o'n hymchwiliad bod achos yr aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gymhleth, ond roedd yn eglur bod agweddau cymdeithasol wrth wraidd hyn, sydd, yn anad dim, yn gyfrifol am greu'r amgylchiadau sy'n arwain at yr achosion yma tu fewn a thu hwnt i gatiau'r ysgol a choleg.

Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi rôl y cod addysg cyd-berthynas a rhywioldeb o fewn y cwricwlwm newydd i fynd i'r afael â hyn, ond mae angen gwneud mwy nawr dros y dysgwyr na fydd yn elwa o'r ymgais yma i newid dealltwriaeth ein plant er gwell o ran hyn. Mae'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef aflonyddu rhywiol yn dameidiog, yn anghyson, ac mae safon gyffredinol yr addysg rhyw a chydberthynas yn annerbyniol mewn nifer o ysgolion. I wella hyn, mae angen gwell hyfforddiant i holl staff ysgol ar bwnc sy'n anodd i nifer, ac yn anweledig i eraill, ac mae hyn yn fater brys. 

Mae'n dda bod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion, ond hoffwn dynnu sylw at un y mae Stonewall Cymru wedi bod yn tanlinellu ers tro ac sydd o hyd heb ei wireddu, sef y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol cenedlaethol traws ar gyfer ysgolion erbyn mis Ionawr nesaf. Mae'r adroddiad yma yn dangos yn eglur pam fo'r oedi'n annerbyniol ac yn niweidiol, ac felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw'r cynnydd o ran hyn.

Fel y noda'r adroddiad, nid drwy'n system addysg yn unig y gwaredwn ni ar yr agweddau niweidiol sy'n cael mynegiant yn yr aflonyddu rhywiol yma. Mae gan wleidyddiaeth, y cyfryngau, a chymdeithas yn fwy eang gyfrifoldeb i beidio a chaniatáu na derbyn agweddau misogynistaidd neu rhywiaethol, neu unrhyw iaith neu ymddygiad sy'n bychanu neu'n manteisio ar sail hunaniaeth neu rywedd. Rhaid i ni gydweithio i ddadnormaleiddio yr hyn sydd wedi ei normaleiddio, hyd yn oed ymysg ein plant lleiaf. Mae'r adroddiad a'i argymhellion yn wirioneddol bwysig os ydym o ddifrif am greu cymdeithas sy'n gydradd, yn iach ac yn ddiogel i'n pobl ifanc.