Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn argymell bod y Senedd yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022, yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc, ac yn cyfarwyddo Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i gynnal adolygiad o fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel coch, galwadau sy'n peryglu bywyd ar unwaith, o dan y model ymateb clinigol.
Cynhelir Diwrnod Strôc y Byd ar 29 Hydref bob blwyddyn. Mae'n gyfle i godi ymwybyddiaeth o natur ddifrifol a chyfraddau uchel strôc, ac i siarad am ffyrdd y gallwn leihau baich strôc drwy well ymwybyddiaeth gyhoeddus o ffactorau risg ac arwyddion strôc. Mae hefyd yn gyfle i ddadlau dros gamau gan wneuthurwyr penderfyniadau ar lefel fyd-eang, ranbarthol a chenedlaethol, sy'n hanfodol i wella gwaith i atal strôc, mynediad at driniaeth acíwt a chefnogaeth i oroeswyr a'r rhai sy'n gofalu. Ar gyfer 2021 a 2022, mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o arwyddion strôc a'r angen am driniaeth strôc amserol o ansawdd da.
Ar draws y DU, mae strôc yn digwydd bob pum munud. Amcangyfrifir bod 7,400 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cael strôc—y pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Hefyd, mae 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, a heb ymyrraeth gynnar a diagnosis, mae perygl o niwed sylweddol i'r claf, neu farwolaeth, yn cynyddu—a hynny'n sylweddol.
Yn ôl y Gymdeithas Strôc, ceir tri math gwahanol o strôc: isgemig, y math mwyaf cyffredin o strôc, a geir mewn tua 85 y cant o achosion, ac a achosir gan rwystr sy'n torri'r cyflenwad gwaed i'r ymennydd; gwaedlifol, a achosir gan waedu yn yr ymennydd neu o'i amgylch ac sy'n digwydd mewn 15 y cant o achosion—dyma'r math mwyaf difrifol o strôc; a phwl o isgemia dros dro, a elwir hefyd yn strôc fach, lle nad yw'r symptomau ond yn para am gyfnod byr.
Mae strôc yn gyflwr lle mae'r awr euraidd yn hanfodol. Mae gan rai cyflyrau acíwt, gan gynnwys strôc, 60 munud lle mae'n rhaid cael gofal diffiniol. Gall ymateb diweddarach gynyddu niwed, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, anabledd corfforol a marwolaethau, yn sylweddol. Mae safonau ansawdd ar gyfer strôc mewn oedolion, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y dylai cleifion sydd wedi cael strôc acíwt gael triniaeth ddelweddu'r ymennydd o fewn awr i gyrraedd yr ysbyty os oes ganddynt unrhyw ddangosyddion ar gyfer delweddu ar unwaith. Mae NICE a'r Gymdeithas Strôc yn argymell defnyddio thrombolysis, neu feddyginiaeth chwalu clotiau, o fewn pedair awr a hanner i gael strôc isgemig. Yn ôl cyngor y GIG, mae alteplase, y feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer triniaeth, yn fwyaf effeithiol os yw'n dechrau cyn gynted â phosib ar ôl i'r strôc ddigwydd, ac yn sicr o fewn pedair awr a hanner. Mae'r GIG yn nodi ymhellach nad argymhellir meddyginiaeth fel y cyfryw os oes mwy na phedair awr a hanner wedi mynd heibio, gan nad yw'n glir pa mor fuddiol yw hi pan gaiff ei defnyddio ar ôl yr amser hwn, a'i bod yn hanfodol gwneud sgan ar yr ymennydd i gadarnhau diagnosis o strôc isgemig, gan y gall y feddyginiaeth wneud gwaedu sy'n digwydd mewn strôc waedlifol yn waeth.
Mae data diweddaraf y Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel, neu ddata SSNAP, sy'n dangos perfformiad mewn ysbytai ar reoli strôc ar draws Cymru a Lloegr, yn tynnu sylw at ostyngiad mewn gofal priodol i gleifion strôc. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, rhaid sganio cleifion strôc o fewn awr yn ôl NICE, ac eto fe wnaeth tri ysbyty yng Nghymru gymryd mwy o amser na'r amser targed hwn i sganio claf.
Mae data SSNAP, sy'n sgorio ymatebion GIG Cymru i ddangosyddion allweddol, megis amser i sganio, amser i driniaeth ac amser i gael mynediad i unedau strôc, yn tynnu sylw at rai tueddiadau pryderus yn ysbytai Cymru. Mae eu sgoriau'n amrywio o A, neu ysbyty sy'n bodloni'r safonau uchaf i bron bob claf, i E, neu ysbyty nad yw'n cyrraedd y safonau uchaf i bron pob claf. Y sgoriau cyffredinol diweddaraf ar gyfer ysbytai Cymru oedd D i bob ysbyty heblaw am Lwynhelyg, a sgoriodd C, gyda phob un o'r tri ysbyty dosbarth yng ngogledd Cymru, er enghraifft, yn sgorio E ar gyfer derbyn i unedau strôc yn y ffigyrau diweddaraf a ryddhawyd.