Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 26 Hydref 2022.
Yn anffodus, nid yw'n rhoi pleser imi ddweud fy mod yn ymwybodol iawn o ba mor ddifrifol y gall strôc fod. Cafodd fy mam strôc beth amser yn ôl a diolch byth, drwy weithredu'n gyflym, fe lwyddasom i gyfyngu ar y niwed a achosodd. Yn gyflym trodd yr hyn a ddechreuodd fel cur pen—yn ei geiriau hi, meigryn a symptomau tebyg i ffliw—yn rhywbeth gwirioneddol sinistr. Ac ar ôl i fy mam gael ei rhuthro i'r ysbyty gyda thri chlot ar ei hymennydd, ac ar ôl aros yn yr ysbyty am bythefnos a chael ffisiotherapi a therapi lleferydd helaeth iawn, a barhaodd am fisoedd, fe lwyddodd i wella'n eithaf da. Pe na baem wedi gweithredu'n gyflym a mynd â hi i'r ysbyty mewn pryd, byddai'r canlyniad wedi bod yn hollol wahanol, ac nid wyf dan unrhyw gamargraff y gallai fod wedi marw.
Fel y mae pawb yn gwybod, gorau po gyntaf y gweithredwch pan fo rhywun yn cael strôc. Rydym i gyd wedi clywed am yr acronym FAST—wyneb, breichiau, lleferydd ac amser—mewn perthynas â strôc, ac mae'n werth ei gofio, a dim ond ar ôl i fy mam gael ei strôc y deuthum yn ymwybodol o'r awr euraidd y mae llawer o fy nghyd-Aelodau wedi siarad amdani heddiw mewn perthynas â strôc. Mae'r tebygolrwydd o gael niwed difrifol neu niwed na ellir ei wella yn ystod strôc yn cynyddu'n aruthrol os nad yw'r claf yn cael triniaeth ddiffiniol o fewn y 60 munud cyntaf. Ond yn rhyfeddol, yng Nghymru, mae'n cymryd mwy na chwe awr a 30 munud ar gyfartaledd rhwng dechrau symptomau strôc a chyrraedd yr ysbyty. O'i gymharu, mae'n cymryd ychydig dros dair awr a 40 munud yn Lloegr, a dwy awr a 41 munud yng Ngogledd Iwerddon.
Amcangyfrifir bod 7,400 o bobl y flwyddyn yn cael strôc yng Nghymru, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod mwy o gleifion yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl, oherwydd mae'n fater o fywyd neu farwolaeth. Mae llawer o alwadau 999 lle'r amheuir strôc yng Nghymru yn cyrraedd ar ôl yr awr euraidd, ers i'r Llywodraeth Lafur yma israddio gwasanaethau ambiwlans lle'r amheuir strôc i oren. Fel y dywedais yn gynharach, mae gweithredu'n gyflym yn hollbwysig, ac ni allaf bwysleisio pa mor ddiolchgar wyf fi i'r parafeddygon a ddaeth i roi cymorth i ni, a'r rheini sy'n parhau i helpu pobl sy'n cael strôc. Ond o ystyried bod galwadau oren yng Nghymru'n cymryd awr a 35 munud ar gyfartaledd i gyrraedd cleifion, gadewch inni fod yn onest, nid yw mor gyflym â hynny o gwbl.
Mae addysg yn allweddol i wella canlyniadau i bobl sy'n dioddef strôc. Mae angen ymdrech enfawr i wneud yn siŵr fod pobl yn gwybod pa mor bwysig yw cael sylw meddygol os ydynt yn arddangos symptomau strôc. Flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn yn gweithio i'r Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, trefnodd ddigwyddiad strôc i bob un o'i etholwyr gyda chymorth ac mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Strôc i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r symptomau a'r heriau y mae rhywun yn eu profi wrth gael strôc. Roedd yn llwyddiant ysgubol ac fe gafodd ei werthfawrogi'n fawr gan drigolion de-ddwyrain Cymru, ond yn anffodus nid yw'r Senedd yn caniatáu i ddigwyddiadau o'r fath ddigwydd rhagor, sy'n drueni mawr.
Mae angen adolygiad o'r manteision a'r heriau o ail-gategoreiddio galwadau strôc fel rhai coch yn lle oren, Weinidog, a hynny ar frys. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Gweinidogion Llafur a chyd-Aelodau yma yn y Senedd heddiw yn gwrando ar yr hyn rwyf fi ac Aelodau eraill wedi'i ddweud heddiw ac yn gweithredu'n gyflym i achub bywydau. Diolch.