Yr Argyfwng Hinsawdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:35, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae COP ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal yr wythnos hon, pan fydd Llywodraeth Cymru yn noddi digwyddiadau lle gall pobl ifanc yng Nghymru drafod yr argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol gyda Gweinidogion ac Aelodau o'r Senedd. Mae'r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yng nghyd-destun uwch-gynhadledd COP27 eleni, lle bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud a fydd yn llywio bywydau pobl ifanc yng Nghymru heddiw.