Mawrth, 8 Tachwedd 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf. Rwyf wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru,...
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu tai cymdeithasol mewn ardaloedd lle mae galw mawr? OQ58682
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? OQ58684
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog awdurdodau lleol Cymru i gyhoeddi datganiadau o fwriad y rhwymedigaeth cwmni ynni 4? OQ58654
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl fferyllfeydd cymunedol o ran gwella a hybu iechyd trigolion Gorllewin De Cymru? OQ58648
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd yng Nghymru? OQ58683
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meini prawf cymhwyso ar gyfer technoleg monitro glwcos fflach a thechnoleg monitro glwcos barhaus ar gyfer rheoli diabetes? OQ58672
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau eiriolaeth? OQ58653
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith Parc Rhanbarthol y Cymoedd? OQ58660
9. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy? OQ58642
10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru? OQ58659
Yr eitem nesaf, felly, bydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Julie James.
Yr eitem nesaf yw'r ail ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd y prynhawn yma, ar bolisi ynni. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.
Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ffliw adar. Galwaf ar y Gweinidog, Lesley Griffiths, i wneud y datganiad.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.
Yr eitem nesaf yw eitem 7, a hwn yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian.
Sy'n dod â ni nawr at y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddaf i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Fe fydd y bleidlais gyntaf ar eitem 6....
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau hygyrchedd gwasanaethau ariannol yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia