Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Wel, yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi newid defnydd, os hoffech chi, yng nghanol ein trefi. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod arferion siopa wedi newid am byth mae'n debyg, ac yn sicr mae angen i ni wneud rhywbeth ynghylch llawer o adeiladau gwag yng nghanol ein trefi. Yn amlwg, mae gennym ni'r gronfa Trawsnewid Trefi, sydd, yn fy marn i, wedi cael ei defnyddio'n dda gan y Llywodraeth, ac mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn ni'n parhau i'w gefnogi.