Tai Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:34, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, yn sicr, mae gan ardaloedd gwledig eu heriau unigryw eu hunain, a chyfleoedd hefyd, ac rwy'n credu bod y galluogwyr tai gwledig yn sicr wedi chwarae rhan bwysig. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn edrych ar gynlluniau treialu yn yr ardaloedd hyn hefyd. Ac o ran cynllun prydlesu PRS, nod hwnnw yw dod ag eiddo presennol a gwag sy'n eiddo i landlordiaid i'r cynllun, ac, yn amlwg, bydd y dull presennol ar gyfer y cynllun hwnnw yn parhau.