Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio gyda phobl ifanc a'n hysgolion yn hyn o beth. Fel y dywedais i wrth Delyth Jewell, nid yw'n ymwneud â'r wythnos hon yn unig; mae'n ymwneud â phob wythnos, on'd ydy, a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn y ffordd honno. Yn amlwg, mae'r cwricwlwm yn caniatáu hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi eco-gynghorau a'n cynghorau ysgol, lle trafodir y materion hyn. Ac rwy'n gwybod bod edrych ar sut rydym ni'n caffael ein bwyd yn ein hysgolion, i leihau'r milltiroedd bwyd, yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ei ystyried ar hyn o bryd.