Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn arwain dadl y prynhawn yma ar y lluoedd arfog. Nid wyf i eisiau dwyn y sylw oddi wrthi, ond nid wyf i'n credu fy mod i'n dweud unrhyw beth nad yw yn y parth cyhoeddus; rwyf i wedi ei chlywed yn dweud droeon ei bod hi wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ariannu swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog.