Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:12, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais yn fy atebion cynharach i ddau o'n cyd-Aelodau, fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau gyfarfod â llawer o'r datblygwyr hyn—ac roedd Blue Gem yn sicr wedi'i gynrychioli o amgylch y bwrdd hwnnw—yng Nghorc, lle cawsom y trafodaethau hynny. Nid oes ganddyn nhw unrhyw amheuon na fydd Llywodraeth Cymru yno i'w cefnogi wrth iddyn nhw gyflwyno'r prosiectau hyn.