Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Mae fferyllfeydd yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ym mhob rhan o Gymru. Mae Presgripsiwn Newydd, y contract fferyllfeydd newydd, a gyflwynwyd ar 1 Ebrill, wedi ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau clinigol y gall pob fferyllfa ei darparu, gan leihau'r gofynion ar feddygon teulu a chefnogi mynediad at driniaeth heb fod angen aros am apwyntiad.