Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Mae amrywiaeth o wasanaethau yn parhau i gael eu datblygu ledled Cymru. Yn nhymor presennol y Senedd, byddwn, er enghraifft, yn cynyddu mynediad at eiriolaeth iechyd meddwl i fodloni safonau amddiffyn rhyddid newydd a hefyd yn creu gwasanaeth eiriolaeth newydd i rieni y mae eu plant mewn perygl o gael eu symud i ofal cyhoeddus.