2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:25, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch y cynllun talu ychwanegol i'n gweithwyr gofal, fy nealltwriaeth i yw bod awdurdodau lleol wedi nodi bod 96 y cant o'r taliadau wedi'u talu'n barod. O ran y 4 y cant, rwy'n credu eich bod chi wir wedi gwneud y peth cywir yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, a bydd hi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y 4 y cant hwnnw.

Ac ar eich ail gwestiwn, nid ydw i'n ymwybodol os yw'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi derbyn yr holl gynlluniau, ond rwy'n gwybod y bydd hi'n ystyried y rheini, ac os yw hi'n teimlo bod angen rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, byddaf i'n gofyn iddi hi wneud datganiad ysgrifenedig.