2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:15, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae rhai newidiadau i fusnes yr wythnos yma. Byddaf i'n gwneud datganiad ynghylch ffliw adar yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac mae'r datganiad ar yr ymateb i gynllun ariannol a rhagolwg economaidd Llywodraeth y DU a'r drafodaeth ar yr Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Protocol Gogledd Iwerddon wedi'i gohirio tan 22 Tachwedd. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.