2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:19, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfyngu gwerthiant tân gwyllt, os gwelwch yn dda. Rydym ni newydd gael noson tân gwyllt, ac fel pob blwyddyn arall, mae anifeiliaid di-ri wedi cael eu dychryn yn enbyd gan y synau a'r fflachiadau o dân gwyllt nid yn unig ar un noson, ond y tair, pedair neu bum noson o gwmpas noson tân gwyllt hefyd. Roedd Classic FM wedi rhoi cerddoriaeth gysurlon yn benodol i gysuro anifeiliaid anwes gofidus pobl oedd yn ofidus, ac mae hynny'n beth hyfryd, ond siawns na ddylai fod wedi gorfod digwydd mewn gwirionedd.

Mae pryderon ynghylch diogelwch plant o ran tân gwyllt hefyd, ac mae gwahaniaeth aruthrol rhwng yr arddangosfeydd proffesiynol gwych sy'n cael eu cynnal yn ein cymunedau a phobl yn eu cynnau yn eu gerddi eu hunain. A fyddai Llywodraeth Cymru'n gallu dysgu o brofiad yr Alban a'u Bil tân gwyllt a pyrotechneg, ac a yw hwn yn faes lle mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud mwy? Byddwn i'n croesawu datganiad yn nodi hyn, os gwelwch yn dda.