Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Elusen annibynnol yw Age Cymru Gorllewin Morgannwg sy'n cefnogi pobl hŷn ar draws Gorllewin De Cymru, ac, am yr 20 mlynedd diwethaf, nhw sydd wedi rhedeg canolfan gymunedol Afan Nedd ac wedi cynnal clwb cinio ar gyfer dros 120 o bobl. Eto i gyd, yn ystod yr wythnos diwethaf, fe'u gorfodwyd nhw i gau eu drysau. Ac er bod yr elusen wedi gweld codiadau yn eu biliau cyfleustodau, maen nhw wedi gweld hefyd, bod penderfyniad gan y bwrdd iechyd lleol wedi cael effaith sylweddol ar eu hincwm. Yn flaenorol, fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe linell amser caffael trydydd sector fel bod sefydliadau gwirfoddol yn gallu gwneud cais ar gyfer darparu gwasanaethau lleol. Fe wnaeth Age Cymru Gorllewin Morgannwg fuddsoddi amser ac arian er mwyn bod yn gymwys yn hyn o beth, ac roedd y bwrdd iechyd i ddyfarnu cytundebau yn ystod y mis hwn. Serch hynny, mae'r bwrdd iechyd wedi tynnu'r cynlluniau hyn yn ôl ac ni fydden nhw'n caffael eto tan 2024. Y penderfyniad hwnnw, yn rhannol, sydd wedi arwain at gau ei drysau, ac mae hynny'n golygu y bydd llawer o drigolion yn methu nawr â chael gafael ar y cymorth yr oedden nhw wedi dibynnu arno ynghynt, tra bod elusennau fel Age Cymru Gorllewin Morgannwg yn cael eu hunain mewn trafferthion ariannol. Felly a gaf i ofyn am ddatganiad brys ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd weithio gyda darparwyr lleol ac am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i'r elusennau yr effeithiwyd arnyn nhw?