Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox a Llyr Gruffydd am eu sylwadau y prynhawn yma. Ac o ran y cyfraniad cyntaf, mae'r newidiadau i'r dreth trafodiadau tir yn golygu nawr bod y gyfradd gychwyn wedi cynyddu i £225,000, ac fel y dywedais i, mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 25 y cant ar y lefel flaenorol, ac mae hynny'n mwy na gwneud yn iawn am y cynnydd mewn prisiau eiddo rydyn ni wedi'i weld ers i ni bennu y lefelau hynny ddiwethaf. Ac fel y dywedais i, yr effaith nawr yw bod 60 y cant o eiddo preswyl yng Nghymru yn is na'r trothwy newydd hwnnw, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys llawer o eiddo sydd wedi’i gaffael gan brynwyr tro cyntaf, ac ychydig yn llai na hanner trafodiadau eiddo preswyl fydd yn talu unrhyw dreth o gwbl, ac mae hynny, fel y gwnes i ei grybwyll yn fy sylwadau agoriadol, yn gyfran uwch na dros y ffin. Rwy'n credu bod Llyr Gruffydd wir wedi taro'r hoelen ar ei phen o ran bod yn rhaid i ni gydbwyso rhwng cefnogi perchnogion tai, ond hefyd buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac rwy'n credu bod y rheoliadau sydd o'n blaenau heddiw yn taro'r cydbwysedd hwnnw'n gwbl briodol.
Nid ydym wedi cael unrhyw hysbysiad, fel y byddech chi’n ei ddychmygu, o ran yr hyn a allai fod o’n blaenau ar 17 Tachwedd, pan fydd y Canghellor yn gwneud ei ddatganiad nesaf. Ond does dim rheswm o gwbl pam na allai Llywodraeth y DU fod yn rhannu, yn gyfrinachol, o leiaf, eu ffordd o feddwl gyda ni. Roedden ni mewn sefyllfa ffodus iawn o ran gallu ymateb yn gyflym, oherwydd dros yr haf, roedden ni wedi bod yn gwneud llawer iawn o fodelu a chostio opsiynau polisi cyn gwneud newidiadau posibl ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Felly, yn yr ystyr hwnnw, roedd y gwaith wedi’i wneud ac felly roeddem ni mewn sefyllfa dda i ymateb yn gyflym iawn. Ond fe wnaeth olygu na allen ni ymateb ar y diwrnod, a gwneud y cyhoeddiadau hynny a sicrhau bod y buddion hynny ar gael i bobl yn syth, ac rwy'n gwybod, yn anochel, bod rhywfaint o rwystredigaeth yna i bobl sy'n cael eu dal yn y cyfnod hwnnw, er i ni roi'r trefniadau trosiannol hynny ar waith i bobl a oedd wedi cwblhau, i geisio bod yn deg i'r bobl hynny.
O ran y ffyrdd eraill y gallwn ni ddefnyddio treth trafodiadau tir, rydyn ni bob amser yn meddwl am beth arall y gallem ni fod yn ei wneud gyda'r dreth honno. Yn y pen draw, mae'r dreth trafodiadau tir yn un o'r trethi hynny sydd â'r prif bwrpas o godi cyllid, ac mae'n dod â symiau sylweddol o arian i Lywodraeth Cymru. Ond rwy'n credu ei bod hi’n bwysig hefyd archwilio sut y gallwn ni o bosibl ddefnyddio ein holl drethi ar gyfer newid ymddygiad yn y cyd-destun hwnnw o newid hinsawdd, y mae'r ddau gydweithiwr wedi'i grybwyll. Ac mae'n rhywbeth mae gen i ddiddordeb mewn archwilio ymhellach iddo hefyd.
Felly, diolch i bob cydweithiwr am eu cyfraniadau i'r ddadl. Fel y dywedais i, rwy'n credu bod gennym ni’r cydbwysedd cywir rhwng darparu rhai gostyngiadau i drethi i'r rhai sy'n prynu eiddo yn y rhan isaf i'r rhan ganolig o’r farchnad dai, gan gynnwys y rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf, ac yna hefyd sicrhau ein bod ni’n codi cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol drwy ofyn i'r rhai sy'n prynu eiddo drytach i dalu ychydig mwy mewn treth. Ac felly, rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Senedd.