Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau. Mae'r rheoliadau y mae'r Senedd yn eu hystyried heddiw yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a wneir. Yn yr achos hwn daethant i rym ar 10 Hydref, ond, i fod ag effaith barhaol, rhaid iddynt dderbyn cymeradwyaeth y Senedd heddiw.
Ar 27 Medi fe wnes i nodi'r newidiadau y byddwn i'n eu gwneud i'r cyfraddau trafodiadau tir a bandiau. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 10 Hydref. Pe bai Llywodraeth y DU wedi dewis rhannu ei chynlluniau â ni yn gynharach, efallai y byddem ni wedi gallu gwneud y newidiadau hyn ar yr un diwrnod ag y cawson nhw eu cyhoeddi, neu hyd yn oed ar ddiwrnod cyllideb fach gywilyddus y DU erbyn hyn. Fodd bynnag, roedd penderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod rhannu gwybodaeth â ni yn golygu nad oeddem yn gallu ymateb mor gyflym ag y byddem ni wedi hoffi, a bu'n rhaid i brynwyr tai yng Nghymru aros ychydig wythnosau i elwa o'r newidiadau a wnaethom i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir.
Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Medi, roeddwn i eisoes yn ystyried newidiadau i gyfraddau a bandiau'r dreth trafodiadau tir i adlewyrchu'r cynnydd mewn prisiau eiddo preswyl rydyn ni wedi'i brofi, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roeddwn i wedi bwriadu gwneud newidiadau wrth gyhoeddi ein cyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, ond rydw i wedi cyflwyno'r newidiadau hynny er mwyn rhoi sicrwydd i brynwyr tai a'r farchnad dai.
Mae'r newidiadau i'r dreth trafodiadau tir yn golygu bod y trothwy cychwynnol wedi cynyddu i £225,000—sy'n cyfateb i gynnydd o 25 y cant. Effaith hyn nawr yw bod 60 y cant o eiddo preswyl yng Nghymru yn is na'r trothwy newydd, gan gynnwys llawer o gartrefi y mae prynwyr tro cyntaf yn eu caffael. Mae hyn yn golygu na fydd ychydig llai na hanner trafodion eiddo preswyl yn talu unrhyw dreth, ac mae hynny'n gyfran uwch nag yn Lloegr. Mae cyfradd y dreth a godir ar y band treth cyntaf newydd wedi cynyddu o 5 y cant i 6 y cant, ac mae hyn yn golygu y bydd prynwyr tai sy'n prynu cartref sy'n costio llai na £345,000 yn gweld gostyngiad treth o hyd at £1,575. Ar gyfer yr eiddo hynny sy'n costio mwy na'r swm hwnnw, mae uchafswm cynnydd mewn treth sy'n daladwy o £550, a fydd yn effeithio ar tua 15 y cant o bryniannau eiddo preswyl.
Mae rheolau trosiannol yn galluogi'r trethdalwyr hynny oedd wedi cyfnewid contractau cyn 10 Hydref i dalu'r hen gyfraddau, pan fo hynny o fudd. Yn hanfodol, ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, ni chafodd gostyngiadau treth eu cyflwyno i'r rhai sy'n agored i gyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir, gan gynnwys y rhai sy'n prynu ail gartrefi, tai gwyliau tymor byr, neu eiddo prynu i osod. Rhagwelir y bydd y newidiadau'n costio cyfanswm o £29 miliwn ar gyfer eleni a'r ddwy flynedd ganlynol gyda'i gilydd. Yr effaith net ar gyllideb Cymru, oherwydd yr addasiad grant bloc sy'n cael ei ddarparu gan y newidiadau i dreth tir y dreth stamp, yw cynyddu ein hadnoddau dros y cyfnod hwnnw o £45 miliwn. Gallwn fod wedi defnyddio swm llawn yr addasiad grant bloc i leihau ymhellach faint o dreth sy'n cael ei gasglu. Fodd bynnag, rydym ni mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd sylweddol, gan gynnwys gostyngiad posibl mewn prisiau eiddo. Mae hefyd yn gyfnod o bwysau anhygoel ar wariant y Llywodraeth. Roeddwn i eisiau defnyddio'r capasiti ychwanegol hwn ar gyfer ein hymrwymiadau gwariant yn hytrach na darparu gostyngiadau treth i rai o'n dinasyddion sydd fwyaf abl i dalu, ac rwy'n gofyn i Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.