Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Diolch, Llywydd. Mae'r ddadl hon yn disgyn yn yr wythnos sy'n arwain at Sul y Cofio, pan fyddwn ni, unwaith eto, yn oedi yn ein bywydau bob dydd i adlewyrchu a chofio pawb sydd wedi talu'r aberth eithaf mewn gwrthdaro yn y gorffennol. Rydyn ni'n meddwl hefyd am y rhai sydd wedi gwasanaethu dros y blynyddoedd a'r rhai sy'n dal i wasanaethu heddiw, eu teuluoedd a'u ffrindiau.