8. Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:03, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Mae'n fraint gweithio ochr yn ochr â hi a swyddogion Llywodraeth Cymru, a'r sefydliadau eraill sy'n cael eu cynrychioli ar grŵp arbenigol y lluoedd arfog. Ac mae'n fraint hefyd cael cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid yma yn y Senedd. Mae angen i mi hefyd ddweud ar goedd bod yn rhaid i mi ddatgan fy mod hefyd yn aelod o fwrdd Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid dros Gymru, yn yr amser sydd gennyf i draddodi'r araith fer hon.

Fel llawer yn y Siambr hon, byddaf yn gosod torch ger cofeb leol yn fy etholaeth ddydd Sul, gan gofio'r rhai sydd wedi talu'r aberth eithaf, ac yn wir y rhai a oroesodd ryfeloedd ond a dalodd bris mawr iawn o hyd, a'u teuluoedd, yn y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli'r penwythnos hwn. Ac rydym ni i gyd yn falch iawn, on'd ydym ni, yn y Siambr hon i gefnogi ein lluoedd arfog oherwydd rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n rhan mor bwysig o'r cymunedau lleol rydym ni'n eu cynrychioli. O'r Fali, i Aberhonddu, i Gaerdydd, personél sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd yw gwead ein cymunedau mewn gwirionedd, ac mae gennym ni Gymry, yn ddynion a merched, sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog yn llythrennol ar draws y byd ar unrhyw un adeg.

Gwyddom y bu ein lluoedd arfog yn hanfodol i amddiffyn Wcráin. Er nad ydynt ar lawr gwlad yn Wcráin nac yn hedfan yn yr awyr dros Wcráin neu yn y môr yn union gerllaw Wcráin, maen nhw, ochr yn ochr â'n gwasanaethau cudd-wybodaeth, yn rhan bwysig iawn o baratoi pobl ar gyfer y brwydrau sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y genedl honno. Ac, yn wir, roedd y Frigâd 160 (Gymreig) yn cymryd rhan mewn ymarferion, ac roedd y Cymry Brenhinol yn cymryd rhan mewn ymarferion yn Estonia, gyda chynghreiriaid NATO eraill, er mwyn cefnogi cynghrair NATO a sicrhau ei bod mor gryf â phosibl, o ystyried y bygythiadau mwy yr ydym ni bellach yn eu gweld yn y byd, yn anffodus, o ganlyniad i ymddygiad ymosodol Rwsia.

Ac fe hoffwn i dalu teyrnged heddiw, Llywydd, hefyd i'r tri phennaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru, sydd yn fy marn i yn gwneud gwaith hollol wych o ymwneud â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac, yn wir, Aelodau'r Senedd hon: y Brigadydd Jock Fraser, y Môr-filwyr Brenhinol, cadlywydd rhanbarthol llyngesol Cymru; Comodôr yr Awyrlu Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru; a'r Brigadydd Andrew Dawes, sydd wedi bod yn bennaeth ar y fyddin yng Nghymru am y tair blynedd diwethaf ac a fydd yn symud ymlaen yn fuan o'i safle ym Mrigâd 160 (Gymreig) yn Aberhonddu i hinsawdd gynhesach Cyprus, yr wyf yn siŵr ei fod o'n falch iawn yn ei gylch. Mae pob un wedi bod yn gefnogaeth wych i gymuned y lluoedd arfog. Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych o ran y ffordd maen nhw wedi ymgysylltu, ac os ydych chi'n meddwl am yr heriau rydym ni wedi'u cael a'u gweld dros y blynyddoedd diwethaf, gyda'r pandemig, gyda'r agenda coffa rydym ni wedi'i gael, ac yna, wrth gwrs, gyda marwolaeth y sofran, rwy'n credu eu bod yn wir wedi camu i'r adwy ac wedi cyflawni eu dyletswyddau mewn ffordd urddasol i bob un ohonom ni yn y Siambr hon ac, yn wir, i bobl Cymru.

Mae'n fendith bod gennym ni grŵp trawsbleidiol gweithredol iawn sydd â chryn ddiddordeb mewn pob math o faterion sy'n ymwneud â chymuned y lluoedd arfog, ac rydym yn falch iawn bod cynnydd  o flwyddyn i flwyddyn o ran cefnogi'r gymuned honno. Roeddem wrth ein boddau yr anrhydeddwyd un o'r pethau y buom yn galw amdano ers tro byd, sef cyflwyno Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, ar ffurf y Cyrnol James Phillips o sir Benfro, a chredaf ei fod wedi dechrau'n ardderchog. Mae wedi cymryd yr holl gamau cywir o ran cyflwyno ei hun i'r gwahanol actorion, os mynnwch chi, ar y llwyfan, ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos iawn gydag ef. Mae eisoes wedi bod i gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol a'r grŵp arbenigol, ac mae arnom ni eisiau sicrhau ein bod yn gweithio'n adeiladol gydag ef, gyda'i swyddogaeth bwysig, i sicrhau ein bod yn cyflawni.

Rwyf wrth fy modd, Gweinidog, yn eich clywed yn cadarnhau y bydd swyddogion cyswllt y lluoedd arfog nawr yn cael eu hariannu yn barhaol yma yng Nghymru. Maen nhw'n rhan bwysig iawn o'r seilwaith sydd gyda ni nawr, i gefnogi teulu'r lluoedd arfog yn ehangach. Maen nhw'n gwneud gwaith ardderchog ym mhob cornel o'r wlad, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod ganddyn nhw'r sicrwydd swyddi yna maen nhw'n ei haeddu, o ystyried y swyddogaeth bwysig sydd ganddyn nhw. Hoffwn weld llawer mwy o ymgysylltu o rai rhannau o'r sector cyhoeddus wrth gefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Rydym ni wedi gweld dechreuad, er enghraifft, y cynllun cyfweliad gwarantedig i'r lluoedd arfog gan Lywodraeth Cymru; hoffwn weld hynny'n treiddio drwy bob rhan o'n sector cyhoeddus, i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny ar gyfer cyflogaeth yno i'n cyn-filwr, pan fydd ganddynt y sgiliau, pan fydd ganddynt y profiad sydd ei angen.

Felly, i gloi, hoffwn ddweud 'diolch' wrth bawb sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu ar draws y genedl fawr hon yng Nghymru, ac rydym yn eich saliwtio y penwythnos hwn.