Y Gwasanaeth Tân

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:01, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol, ac rwy'n cydymdeimlo â'r bobl y dinistriwyd eu cartrefi yn y tân ofnadwy hwn. Rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad y mae'n cyfeirio ato, a'r heriau gweithredol o ran mynediad at ddŵr i Dŵr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'n fater gweithredol i'r gwasanaethau hynny, ond rwy'n fwy na pharod i edrych i weld a ellir gwneud mwy yn ein cyfarfodydd rheolaidd gyda'r gwasanaethau tân ac achub i sicrhau ein bod, os oes unrhyw bryderon, yn mynd i'r afael â'r pethau hyn yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol yn y dyfodol.