Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Rwy'n falch bod y cwestiwn hwn wedi'i godi y prynhawn yma mewn perthynas â chynllun Dechrau'n Deg, ac nid dyma'r tro cyntaf i mi godi'r mater hwn, ond rwy'n pryderu'n fawr ynghylch loteri cod post y cynllun, lle mae cyllid yn seiliedig ar lle mae rhywun yn byw yn hytrach nag ar eu sefyllfa ariannol, ac yn y bôn mae'n senario lle gall pobl gyfoethog fod yn gymwys a lle gall y bobl sydd ei angen fwyaf gael ei amddifadu ohono mewn rhai achosion. Felly, pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hyn, a pha gamau y bwriadwch eu cymryd i ddileu rhwystrau i'r cynllun a sicrhau tegwch yn y system?