Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny Rathbone. Fel rydych yn ei ddeall, wrth gwrs, nid yw ffocws y cwestiwn hwn o fewn fy mhortffolio gweinidogol o ran polisi, ond rwy'n hapus iawn i ymateb ar y mater asesu effaith. Mae cam 2 o ehangu Dechrau'n Deg yn adeiladu ar y dull a fabwysiadwyd yng ngham 1. Mae hynny wedi'i adlewyrchu yn yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Ac wrth gwrs, mae darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn cyrraedd ei botensial.