Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Rwy’n parhau i weithio gyda’r gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru i sicrhau bod pobl, cymunedau a’r amgylchedd yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl rhag tanau a pheryglon eraill. Yn y tymor hwy, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cynaliadwyedd a diogelwch y gwasanaethau ac i ehangu rôl diffoddwyr tân.