Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Mae gennyf gywilydd i gyfaddef nad oedd tlodi mislif yn rhywbeth roeddwn i wedi bod yn ymwybodol iawn ohono cyn dod yn gynghorydd yn 2017. Roedd yn fater a godwyd gan fy nghyd-gynghorydd Plaid Cymru ar gyngor Rhondda Cynon Taf, Elyn Stephens, pan ofynnodd i ni fel grŵp gefnogi hysbysiad o gynnig roedd hi am ei gyflwyno, yn annog y cyngor i edrych ar ddarparu cynnyrch mislif am ddim ym mhob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol, i gydnabod eu bod mor hanfodol â phapur toiled ar gyfer hylendid personol disgyblion benywaidd. Siaradodd yn agored ac yn ddewr am ei phrofiad ei hun o fethu fforddio cynhyrchion, a beth roedd hynny wedi'i olygu i'w hurddas ei hun. Rhannodd hefyd sut yr effeithiodd hyn arni hi, ac eraill roedd hi'n eu hadnabod, a methu mynychu'r ysgol pan oeddent yn cael mislif, ac felly'n colli addysg oherwydd gweithrediad corfforol normal.
Roeddwn yn aelod o'r gweithgor a sefydlwyd i ymchwilio i'r mater, ac fel rhan o'r gwaith hwn, gofynnwyd am dystiolaeth drwy arolwg gan athrawon a hefyd gan ddisgyblion benywaidd am y sefyllfa fel y'i gwelent bryd hynny. Cymerodd 784 o ddysgwyr benywaidd ran yn yr arolwg, a chynhaliwyd grwpiau ffocws hefyd rhwng disgyblion a'r gweithgor i ddeall yn well beth oedd y problemau. Roeddent yn glir iawn gyda ni fod tlodi mislif yn broblem, gydag un o'r rhai a oedd yn bresennol yn datgan, 'Mae pobl yn colli ysgol oherwydd mislif neu'n gadael yr ysgol yn gynnar os ydynt yn cael damwain neu angen cynhyrchion mislif ac nad oes ganddynt rai—mae'n effeithio ar bresenoldeb.' Roedd hwn yn safbwynt a gefnogwyd gan 64 y cant o benaethiaid, gan godi i 86 y cant o ymatebion gan staff derbynfa a 75 y cant o nyrsys ysgol. Felly, cydnabyddiaeth fod tlodi mislif yn cael effaith uniongyrchol ar bresenoldeb.
Materion cyffredin a oedd yn codi oedd methu gwybod lle i gael gafael ar gynhyrchion am ddim hyd yn oed os oeddent ar gael, neu gael eu gwneud i deimlo gormod o embaras i ofyn yn hytrach na gallu cael gafael arnynt eu hunain. Fe wnaethom ddatgelu tystiolaeth hefyd fod llawer iawn o gamwybodaeth a chamddealltwriaeth ymhlith athrawon gwrywaidd a dynion ifanc am y mislif, gyda rhai'n meddwl y gallech ddewis pryd y byddwch yn gwaedu, ychydig fel dewis pryd y byddwch yn mynd i'r tŷ bach. Golygai hyn fod caniatâd i fynd i'r tŷ bach yn cael ei wrthod i ferched, gan arwain at ddamweiniau hyd yn oed pan oedd ganddynt gynhyrchion at eu defnydd, neu fethu cael gafael arnynt am nad oeddent yn cael mynd â'u bagiau i'r tŷ bach gyda hwy.
Rwy'n falch o ddweud bod hyn wedi arwain at newid polisi yn RhCT, ac roedd yn ffactor a oedd wedi cyfrannu, rwy'n credu, ochr yn ochr ag ymgyrchoedd tebyg eraill ar y pryd, at weld Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo adnoddau i fynd i'r afael â'r mater. Rydym wedi dod yn bell ers hynny, ond er bod cynnydd wedi bod, mae mwy i'w wneud, ac mae'n bwysig ein bod yn dal i siarad am y mislif a'i normaleiddio fel nad yw'r cynnydd hwnnw'n cael ei golli. Ac mae yna lawer o bobl yn gwneud hynny.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn gwybod am Molly Fenton, a sefydlodd ymgyrch Love Your Period, ac sy'n gwneud cymaint i chwalu tabŵs a chodi ymwybyddiaeth am y mater hwn. Hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith pwysig, a'r modd y mae'n parhau i dynnu sylw at yr heriau i sicrhau bod cynhyrchion am ddim yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen. Dangosodd arolwg diweddar a anfonodd at fyfyrwyr a rhieni ar draws Caerdydd nad oedd 97 y cant o ddisgyblion wedi cael cynnyrch mislif hanfodol gan eu hysgolion i'w helpu drwy wyliau'r haf, sy'n golygu bod gwaith i'w wneud o hyd i wneud mynediad at y cynhyrchion hyn yn haws. Mae'r cynhyrchion bellach ar gael am ddim, ond nid ydynt yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen.
Hefyd, hoffwn anfon fy nghefnogaeth i Molly yn gyhoeddus ar ôl gweld y sylwadau a gafodd eu gadael ar fideo a wnaeth am ei hymgyrch y llynedd ar gyfer Llywodraeth Cymru. Roedd yr ymosodiadau'n hynod o bersonol a chreulon, ac roedd Molly'n ddigon dewr i ailrannu a thynnu sylw at rai ohonynt yn ddiweddar—roeddent yn erchyll, ac ni fyddwn am roi sylw iddynt yn y Siambr hon drwy eu hailadrodd. Ond roedd hyn i gyd oherwydd ei bod hi'n siarad am urddas mislif, yn siarad am weithrediad corfforol normal. Ac mewn trydariad yn ddiweddar, cyfeiriodd at y gân, 'The Man' gan Taylor Swift, a gofynnodd yn syml iawn,
'Pe bawn i'n ddyn, ni fyddai pobl yn canolbwyntio ar ba mor bert yw fy ngwisg, na sut y dangosai fy siâp. A bod yr hyn rwy'n ei wneud yn anhygoel, yn lle cael fy nifrïo am fod yn ormod o geffyl blaen ac am gicio yn erbyn y tresi. Mae'n hurt ac mae angen iddo stopio'.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Molly, a byddwn yn gobeithio y byddai holl Aelodau'r Senedd yn ymuno â mi i gondemnio'r rhai sydd wedi ei beirniadu hi a'r ymgyrch, ac yn addunedu heddiw i gefnogi normaleiddio siarad am y mislif.
Nid rhywbeth sy'n effeithio ar bobl ifanc yn unig yw tlodi mislif, ac rwy'n credu bod angen inni gydnabod y posibilrwydd heddiw hefyd y bydd yr argyfwng costau byw yn arwain at weld mwy o bobl sy'n cael mislif yn methu cael gafael ar y cynhyrchion sydd eu hangen arnynt. Yn anecdotaidd, mae hyn yn rhywbeth a rannwyd fel pryder mewn digwyddiad costau byw a drefnais yn fy rhanbarth yn ddiweddar, lle nododd banciau bwyd ac eraill gynnydd yn y galw am gynnyrch mislif, yn ogystal â chynhyrchion hylendid eraill. Mae adroddiadau diweddar hefyd yn dangos cynnydd yng nghost cynhyrchion mislif, gyda gwefan mysupermarketcompare yn dangos yn ddiweddar fod bocs o 18 o damponau Tampax Pearl Compak Super Plus ar werth mewn un archfarchnad am £1.95 ychydig wythnosau yn ôl, ond erbyn hyn, dim ond pecyn 16 sydd ar gael am £2.60; dyna 65c yn fwy am ddau dampon yn llai, neu 50 y cant yn fwy am bob tampon.
Mae hefyd yn fater sy'n effeithio ar fenywod sy'n ffoaduriaid, fel yr amlygwyd gan elusen Women for Refugee Women, sy'n cefnogi menywod sy'n ceisio lloches yn y DU. Gwelsant fod 75 y cant o fenywod y gwnaethant eu cyfweld yn ei chael hi'n anodd cael padiau mislif neu damponau, gan eu gorfodi i orddefnyddio cynnyrch mislif, addasu deunydd mislif, neu gardota am arian i brynu pad. Ond fel y dywedais yn gynharach, nid nod y ddadl hon yw ceisio perswadio Llywodraeth Cymru fod tlodi mislif yn broblem; rydym i gyd yn ymwybodol iawn o hyn, a byddwn yn gobeithio ein bod i gyd wedi ymrwymo i roi camau ar waith i helpu i ddileu'r broblem. Yn hytrach, mae'r ffocws ar yr angen iddynt gymryd y cam ychwanegol o osod y gwaith hwn mewn cyfraith drwy Fil cynnyrch mislif, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban.
Roedd hon yn ymgyrch a gafodd ei harwain gan Aelod Llafur o Senedd yr Alban, Monica Lennon, a daeth i rym ar 15 Awst eleni. Nod Deddf Cynnyrch Mislif (Darpariaeth am Ddim) (Yr Alban) 2021 yw trechu tlodi mislif, hyrwyddo urddas mislif a thorri'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif yn yr Alban. O ganlyniad i'r Bil, yr Alban oedd y wlad gyntaf yn y byd i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim i bawb, drwy ei gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol nawr i awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chyrff gwasanaethau cyhoeddus penodol ddarparu cynhyrchion i fod ar gael yn hawdd ac am ddim.
Yn gynharach eleni, ymwelais â'r Alban fel rhan o fy ngwaith yn cynrychioli'r Senedd yng Nghynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon, ac fe'm trawyd yn syth gan y ffaith bod cynnyrch mislif yr un mor hygyrch â phapur tŷ bach lle bynnag yr awn—felly, ym mhob toiled cyhoeddus a ddefnyddiais, gan gynnwys yn y maes awyr. Cymharwch hynny â'n Senedd ni a thoiledau a ddefnyddir gennym ni a staff lle mae cynhyrchion ar gael, ond mewn peiriant ar wal, sy'n golygu, hyd yn oed os gallwch fforddio eu prynu, nad yw bob amser yn bosibl os nad oes gennych ddarnau arian. A allwch chi ddychmygu sefyllfa lle byddem yn ei hystyried yn iawn i roi papur tŷ bach mewn peiriant, a gofyn i bobl dalu am bob dalen? Byddai pobl yn ddig, ac yn briodol felly. Ac eto, dyna sy'n digwydd bob diwrnod gyda chynnyrch mislif yng Nghymru, hyd yn oed yn yr adeilad hwn. A dyna beth mae cyflwyno Bil a deddfwriaeth wedi ei newid yn yr Alban.