Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch. Ni chawsom unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth y DU cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Mae gennym bryderon difrifol yn ei gylch, gan gynnwys y pwerau eang iawn y mae'n eu rhoi i Weinidogion y Goron a'i oblygiadau posibl i'r setliad datganoli. Rydym yn argymell y dylai'r Senedd wrthod rhoi cydsyniad i'r Bil.