Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny. Rwy'n falch o glywed ei bwynt olaf. Dyma ddeddfwriaeth bwdr a di-fudd sydd, drwy ei chyflwyno, wedi deifio enw da'r Deyrnas Unedig mewn cynghorau ar draws y byd. Mae wedi niweidio ein perthynas â'r UE ac wedi dangos bod Llywodraeth y DU ei hun yn barod i dorri cyfraith a chytundebau rhyngwladol yr ymrwymodd iddynt o'i gwirfodd ar ôl twyllo poblogaeth unoliaethol Gogledd Iwerddon. Mae'n ddeddfwriaeth aflan ac ymhlith y mwyaf anonest a welais gerbron unrhyw ddeddfwrfa erioed. Gwnsler Cyffredinol, mae'n bwysig fod y lle hwn, fel deddfwrfa ac fel Llywodraeth Cymru, yn sefyll dros lywodraethu da, yn sefyll dros gyfraith ryngwladol ac yn sefyll dros werthoedd democratiaeth lle caiff cytundebau yr ymrwymir iddynt yn wirfoddol eu cynnal gan bob parti. A wnaiff Llywodraeth Cymru dawelu meddyliau'r Siambr y prynhawn yma y bydd yn parhau i ddadlau bod y ddeddfwriaeth hon nid yn unig yn niweidio'r DU yn allanol ac yn rhyngwladol, ond yn tanseilio sail cyfansoddiad y DU yn fewnol hefyd?