Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch. Bydd y Bil yn tacluso'r llyfr statud drwy gael gwared ar ddarpariaethau sy'n anarferedig, wedi darfod, heb fod o ddefnydd ymarferol neu heb effaith ymarferol mwyach neu heb unrhyw obaith realistig o gael eu cychwyn. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gyfreithwyr ac eraill ddod o hyd i'r wybodaeth y maent yn chwilio amdani.