Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch. Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad ar y Bil cyfraith statud (diddymiadau) (Cymru), fe wnaethoch gynghori y byddai'r mesur yn mynd i'r afael â
'chyflwr anhrefnus ein llyfr statud anferth a gwasgarog.'
Rwy'n cydnabod y gall darpariaethau fynd allan o ddefnydd neu beidio â chael eu cychwyn. Fodd bynnag, mae'n destun pryder imi fod y gwaith hwn yn mynd i gyfrannu at yr oedi a wynebwn cyn gweithredu cyfraith newydd yng Nghymru. Mae'r Ddeddf aer glân yn hwyr; mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwrthod deddfu i efelychu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau y DU 2022; rydym eto i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol; a daw'r Bil ar adeg pan ddylai ffocws Llywodraeth Cymru fod ar faterion pwysicach, fel yr argyfwng costau byw sy'n wynebu pobl ledled Cymru.
Er fy mod yn derbyn mai dim ond nawr rydych yn ymgynghori ar y Bil, a ydych yn cytuno â mi y dylai'r flaenoriaeth nawr fod ar ganolbwyntio adnoddau Cymru ar greu cyfreithiau Cymreig newydd sydd eu hangen yn ddybryd ar ein cymdeithas a'n gwlad?