Cyfleoedd Cyfartal

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:07, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Rydym yn defnyddio pob ysgogiad posibl i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system gyfiawnder, er nad yw wedi'i ddatganoli. Er enghraifft, buom yn gweithio gyda sefydliadau partner ar y cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a lansiwyd ym mis Medi ac sy'n ategu ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol ein hunain.