Cyfleoedd Cyfartal

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:08, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Nid wyf yn gwybod a ydych wedi cael amser neu gyfle i ddarllen ac ystyried yr adroddiad newydd gan brifysgol Manceinion ar ragfarn hiliol yn y farnwriaeth. Canfu fod gwahaniaethu'n digwydd yn arbennig tuag at ddefnyddwyr du'r llys, o gyfreithwyr i dystion i ddibynyddion, ac mae'n cefnogi canfyddiad adroddiad Lammy yn 2017. Mae hiliaeth sefydliadol yn gyhuddiad difrifol iawn, ond mae'n ymddangos ei fod yn briodol yma. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym beth mae Cymru'n ei wneud a beth arall sy'n rhaid inni ei wneud i wrthdroi'r rhagfarn farnwrol endemig hon?